Cylch a Bachyn
Ym 1958 crëwyd ffasiwn newydd gyda dyfodiad cylchoedd hwla plastig. Gwerthwyd 20 miliwn ohonynt yn y flwyddyn gyntaf. Ond dengys peintiadau hynafol mewn beddrodau Eifftaidd bod plant wedi chwarae â chylchoedd mor bell yn ôl a 2,500 CC. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg gwnâi'r gof lleol gylchoedd haearn i'r plant. Weithiau, gofynnent i'r Cowper am gylch y byddai'n ei dynnu o hen gasgen neu fwced pren!
Dewisai'r gof, ar y llaw arall, ddarn hir, tenau o haearn eisoes wedi'i baratoi. Byddai'n ei fesur ac yn ei dorri i'r hyd cywir, yn morthwylio'r darn haearn ar yr einion nes gwneud i'r gwreichion dasgu. Byddai'n crymu'r haearn yn araf nes bod y ddeupen yn cwrdd i ffurfio cylch, cyn ei osod yn y tân nes ei fod yn iasboeth. Yna byddai'n ei forthwylio ynghyd i greu un darn crwn - y cylch.
Y cam nesaf oedd ei osod i oeri mewn dŵr oer tra ei fod yn gwneud bachyn. Yna cymryd y cylch allan o'r dŵr, ei daro'n ysgafn yma a thraw cyn ei daflu allan drwy ddrws yr Efail. Byddai'r plant yn rhedeg lawr yr heol ar ei ôl, a gallai'r plentyn cyntaf i'w ddal ei hawlio, oni bai bod rhywun wedi talu amdano o flaen llaw wrth gwrs!