Doli Peg
'Teganau o fabanod' oedd yr enw am ddoliau hyd at y ddeunawfed ganrif, pan ddechreuwyd defnyddio'r gair 'dol' - talfyriad o Dorothy - am y tro cyntaf. Gwnaed y doliau o glai, pren, cadachau, esgyrn a hyd oed ifori a chwyr mewn ymgais i'w gwneud mor realistig â phosib. Yn yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed chwaraeai plant â doliau a elwid yn 'Fabanod Fflandrys'. Yn America gelwid y doliau hyn yn ddoliau peg er nad o begiau y'u gwnaed.
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg arferai'r Fictoriaid wneud rhai o'u doliau peg yn ddoliau pedler trwy ychwanegu tlysau bach i'r ddol orffenedig pan oedd modd. Daw'r traddodiad o wneud doliau peg o begiau dillad pren o gyfnod pan nad oedd gan bobl lawer o arian i'w wario ar deganau. Pan stopiwyd cynhyrchu teganau yn ystod yr Ail Ryfel Byd, byddai plant yn gwneud eu teganau eu hunain gan ddefnyddio pethau y byddent yn eu canfod yn ac o gwmpas eu cartrefi.
Awgrym am weithgaredd: Gwneud doli peg
Byddwch angen:
- Peg doli pren
- Glanhawr pibau
- Darnau o ddefnydd a gwlân
- Siswrn, glud, pen ffelt
Gwisgwch y peg doli fel yr ydych chi'n dewis. Weindiwch ganol y glanhawr pibau o amgylch y darn sydd fymryn o dan wddf y peg, gan ei dwistio'n gadarn ar y cefn. Lledaenwch bob pen – y breichiau – i'r ochrau. Plygwch y pwyntiau oddi tano i wneud 'dwylo'. Gludiwch y gwlân i'r pen. Tynnwch lun wyneb arno.