Digwyddiad: Ultimate Dinosaurs
gyda’r Athro Ben Garrod
Dewch ar antur gynhanesyddol wrth i Ben eich cyflwyno i rai o fwystfilod mwyaf peryglus y blaned erioed
Roedd deinosoriaid fel Tyrannosaurus Rex, Allosaurus a Spinosaurus yn arfer cerdded a nofio ble rydych chi’n sefyll nawr! Yn sioe lwyfan gyffrous Ultimate Dinosaur bydd yr Athro Ben Garrod yn mynd â chi ar daith i gyfarfod rhai o fwystfilod mwyaf peryglus y blaned erioed.
Bydd Ben yn rhoi cyfle i blant ddangos eu bod nhw’n gwybod cymaint yn fwy na’u rhieni, mewn sioe ryngweithiol, addysgiadol yn llawn jôcs gwael, gemau a’r wybodaeth wyddonol ddiweddaraf.
Dewch i brofi’ch hun yn erbyn Ben mewn sioe ddychrynllyd o dda, sy’n fwy ac yn well nag erioed!
Mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe.
Digwyddiadau arall yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Ar Draws Cefn y Ddraig - Gyda Ben Garrod (museumwales.ac.uk)