Digwyddiad: Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
Rydym yn falch o gynnal amrywiaeth wych o arddangosion, sioeau, sgyrsiau a gweithdai ar eich cyfer, yn syth o'n horielau a'n mannau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Eleni, byddwn yn cyflwyno cleciau mawr gan Brainiacs Live, swigod a balŵns, sioeau o'r radd flaenaf, giamocs gwyddonol a miri mathemategol!
Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe - Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)