Digwyddiad: Triciau Mathemateg i Ffrwydro’ch Ymennydd
Awr wyllt o fathemateg heriol, arddangosiadau rhyngweithiol a hiwmor drygionus gan y diddanwr a chyfathrebwr gwyddoniaeth sydd wedi ennill sawl gwobr, Kyle D Evans (enwebai sioe orau yng Ngŵyl Gomedi Caerlŷr 2020, enillydd digrifwr gorau Swindon Fringe 20018, enillydd Famelab UK 2016).
Treuliodd Kyle y cyfnod clo’n astudio posau mathemateg feirol, haciau a thriciau bywyd, ac wedi crynhoi ei ganfyddiadau i awr o adloniant crafu pen ond cynhwysol a difyr tu hwnt yn seiliedig ar fathemateg.
Gallwch ddisgwyl jôcs, caneuon a llawer o fathemateg syfrdanol! Bydd cyfle hefyd i brynu llyfr wedi'i lofnodi gan Kyle ar ôl y sesiwn https://atlantic-books.co.uk/book/maths-tricks-to-blow-your-mind/
Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe - Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)
Sioe a ddarperir gan: Kyle Evans