Digwyddiadau

Digwyddiad: Archwilio a Phaentio Eich Breuddwydion

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
6 Tachwedd 2022, 2pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle 1 tocyn i bob teulu

Hoffech chi ddefnyddio eich breuddwydion i greu gwaith celf? Ewch ati i ddweud wrth y gwyddonydd cwsg Mark Blagrove am eich breuddwyd a'i baentio gyda'r artist Julia Lockheart. Byddwch yn dysgu pam rydyn ni'n breuddwydio a'r wyddoniaeth sy'n sail i freuddwydion. Bydd eich paentiad yn cael ei daflunio ar y sgrîn fawr i bawb ei weld! 

 

Archebu eich Tocyn

 

Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe - Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)

 

Digwyddiadau