Digwyddiadau

Digwyddiad: Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
29 Mawrth–1 Ebrill 2024, 10am - 3.30pm
Pris £4 yr helfa
Addasrwydd Teuluoedd

Prynwch eich tocynnau heddiw i osgoi cael eich siomi!  Archebu ar-lein yn unig.

Archebu Tocynnau 

 

 

Datryswch y posau yn ein Helfa Basg er mwyn hawlio eich siocled blasus!    

Bydd tair her llawn hwyl ar eich cyfer!    

 1. Dewch i gyfri...  

Mae gan bob un o'r cwningod cudd fasged o wyau. Sawl ŵy sydd yn eu basgedi? Ysgrifennwch y rhif yn yr ŵy gwag ar y daflen.  

2. Gweld y Gwahaniaeth... defnyddiwch eich llygaid craff i weld y gwahaniaeth rhwng gwahanol gwningod yr Amgueddfa.  

3. Yr Ŵy Aur... ac i chi dditectifs gwerth eich halen, allwch chi ddod o hyd i'r ŵy aur bach iawn iawn sy'n cuddio yn yr amgueddfa?  

£4 yr helfa - yn cynnwys gwobr siocled  (cynhwysion isod)  

 

Beth ydw i'n ei gael?    

Taflen Helfa llawn lliw A4  

Gwobr siocled llaeth a gwyn (ar ôl cwblhau'r llwybr).   
Cynhwysion: Siwgr, powdr llaeth cyflawn, menyn coco, coco pur,

Emylsydd: lesithin soia, blas fanila naturiol, e32 
Siocled llaeth (lleiafswm solidau coco 33.7%, lleiafswm solidau llaeth 22.5%) 
Siocled gwyn (lleiafswm y solidau llaeth 23%) 
Cynhwysion all achosi alergedd wedi eu hamlygu. 
Gall gynnwys cnau.   

 

Sut alla i gael taflen Helfa?    

Prynu eich llwybrau ar-lein. 

Archebu Tocynnau 

 

Nifer cyfyngedig o lwybrau a’r gael. Nid yw’r llwybrau yn ad-daladwy ac ni ellir eu cyfnewid am unrhyw ddiwrnod arall.

Er mwyn osgoi cael eich siomi, prynwch eich llwybr ar-lein nawr.    

Sylwer: Nid yw llwybrau ar gael i'w prynu ar y safle.    

Mi fydd angen i chi sganio’r tocyn digidol gydag aelod o staff  ar y safle er mwyn casglu llwybr a’r wobr siocled.

 

Gwybodaeth Ychwanegol    

Iaith - Mae'r taflenni'n ddwyieithog.    

Oedran - Addas ar gyfer plant 4+ oed , efallai y bydd angen help ar blant iau.  

Cost – Mae'r gost yn cynnwys un daflen ac un wobr siocled.  Mae croeso i chi gwblhau un fel teulu neu brynu un ar gyfer pob person.      

Mae'r daflen ar gael ym mhob un o safleoedd yr Amgueddfa Genedlaethol ac mae'r un peth ar bob safle : Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru.    

Allwn ni ddim ad-dalu neb am y taflenni, na’u cyfnewid am unrhyw ddiwrnod arall.

Lle bo'n bosibl, rydyn ni wedi defnyddio deunyddiau ecogyfeillgar a byddwn yn defnyddio'r rhain eto.  

 

Mae aelodau’r Amgueddfa yn cael gostyngiad o 10% am docynnau Helfa Basg.  

Caiff ein digwyddiadau i deuluoedd eu cefnogi gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

Digwyddiadau