Digwyddiad: Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Prynwch eich tocynnau heddiw i osgoi cael eich siomi! Archebu ar-lein yn unig.
Datryswch y posau yn ein Helfa Basg er mwyn hawlio eich siocled blasus!
Bydd tair her llawn hwyl ar eich cyfer!
1. Dewch i gyfri...
Mae gan bob un o'r cwningod cudd fasged o wyau. Sawl ŵy sydd yn eu basgedi? Ysgrifennwch y rhif yn yr ŵy gwag ar y daflen.
2. Gweld y Gwahaniaeth... defnyddiwch eich llygaid craff i weld y gwahaniaeth rhwng gwahanol gwningod yr Amgueddfa.
3. Yr Ŵy Aur... ac i chi dditectifs gwerth eich halen, allwch chi ddod o hyd i'r ŵy aur bach iawn iawn sy'n cuddio yn yr amgueddfa?
£4 yr helfa - yn cynnwys gwobr siocled (cynhwysion isod)
Beth ydw i'n ei gael?
Taflen Helfa llawn lliw A4
Gwobr siocled llaeth a gwyn (ar ôl cwblhau'r llwybr).
Cynhwysion: Siwgr, powdr llaeth cyflawn, menyn coco, coco pur,
Emylsydd: lesithin soia, blas fanila naturiol, e32
Siocled llaeth (lleiafswm solidau coco 33.7%, lleiafswm solidau llaeth 22.5%)
Siocled gwyn (lleiafswm y solidau llaeth 23%)
Cynhwysion all achosi alergedd wedi eu hamlygu.
Gall gynnwys cnau.
Sut alla i gael taflen Helfa?
Prynu eich llwybrau ar-lein.
Nifer cyfyngedig o lwybrau a’r gael. Nid yw’r llwybrau yn ad-daladwy ac ni ellir eu cyfnewid am unrhyw ddiwrnod arall.
Er mwyn osgoi cael eich siomi, prynwch eich llwybr ar-lein nawr.
Sylwer: Nid yw llwybrau ar gael i'w prynu ar y safle.
Mi fydd angen i chi sganio’r tocyn digidol gydag aelod o staff ar y safle er mwyn casglu llwybr a’r wobr siocled.
Gwybodaeth Ychwanegol
Iaith - Mae'r taflenni'n ddwyieithog.
Oedran - Addas ar gyfer plant 4+ oed , efallai y bydd angen help ar blant iau.
Cost – Mae'r gost yn cynnwys un daflen ac un wobr siocled. Mae croeso i chi gwblhau un fel teulu neu brynu un ar gyfer pob person.
Mae'r daflen ar gael ym mhob un o safleoedd yr Amgueddfa Genedlaethol ac mae'r un peth ar bob safle : Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru.
Allwn ni ddim ad-dalu neb am y taflenni, na’u cyfnewid am unrhyw ddiwrnod arall.
Lle bo'n bosibl, rydyn ni wedi defnyddio deunyddiau ecogyfeillgar a byddwn yn defnyddio'r rhain eto.
Mae aelodau’r Amgueddfa yn cael gostyngiad o 10% am docynnau Helfa Basg.
Caiff ein digwyddiadau i deuluoedd eu cefnogi gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.