Digwyddiad:Gŵyl Tawe
Rydym yn gyffrous iawn i gynnal Gŵyl Tawe - gŵyl iaith Gymraeg Abertawe.
Wedi ei curadu gan Menter Iaith Abertawe.
Bydd gŵyl iaith Gymraeg Abertawe, Gŵyl Tawe, yn dychwelyd unwaith eto i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar ddydd Sadwrn yr 7fed o Fehefin 2025 gyda gig Gruff Rhys yn cloi’r ŵyl.
Bydd yr ŵyl eto yn gweld perfformiadau gan lu o artistiaid amgen, cyfoes sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg mewn ffyrdd amrywiol a chyffrous. Bydd y gerddoriaeth fyw yn cael ei chynnal ar draws prif lwyfan awyr agored yr ŵyl a’r ail lwyfan yng nghanol yr amgueddfa.
Yn ogystal â’r gerddoriaeth fyw, bydd sioeau theatr ryngweithiol i deuluoedd, perfformiadau gan ysgolion lleol, ac amryw o weithdai creadigol gan ein partneriaid o’u stondinau yng nghyntedd yr amgueddfa.
Gŵyl Tawe Facebook
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
Ar Agor yn ddyddiol 10am-5pm
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Mae mynediad am ddim, ond mae’n bosibl y codir tâl ar gyfer rhai arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau.
Parcio
Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.
Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Mynediad
Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.
Canllaw MynediadMap safle
Lawrlwythwch map o’r safleLleoliad
Bwyta, Yfed, siopa
- Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd