Digwyddiad: Gweithdy Celf Graffiti
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
Rydyn ni’n hynod falch o groesawu’r artist murluniau a graffiti Karim Kamil (@skateranddecorator) i arwain y gweithdai arbennig hyn dros hanner tymor.
Karim yw’r artist dawnus a wnaeth yr ail-ddyluniad anhygoel diweddar o’r cynhwysydd yng ngardd GRAFT yr Amgueddfa.
Dyma beth i’w ddisgwyl!
- Cyflwyniad i hanes graffiti / celf stryd
- Dysgu technegau llythrennu graffiti sylfaenol, a sut i ddefnyddio paent chwistrell a’i gwahanol dechnegau.
- Cymryd ysbrydoliaeth o’r ardd ar gyfer sesiwn fraslunio graffiti ar bapur yn barod i’w baentio.
- Chwistrellu paent! (ar ôl gwisgo masgiau a menig, a chamu i’r awyr iach). Byddwch chi’n creu darn ar y cyd ar fyrddau mawr yn yr ardd.
- Gorffen drwy greu tag/stensil i fynd adref gyda chi.
Pethau pwysig i’w nodi:
Oed – Rhaid bod dros 8 oed
Gwarchodwyr – Rhaid bod gwarchodwr 18+ yn bresennol drwy gydol y gweithdy
Dillad – Gwisgwch hen ddillad does dim ots gyda chi eu trochi
Hyd – Tua 2 awr
Cyfarpar – Bydd masgiau a menig yn cael eu darparu i bawb
Rhaid gweithio yn yr awyr agored, felly os yw’r tywydd yn wael bydd angen gohirio’r gweithdy.