Digwyddiad: Swper GRAFT – Cyhydnos yr Hydref
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
![](/media/58622/thumb_1600/GRAFT_Bilingual_RGB_2023_SWPER.png)
![](/media/58625/thumb_1600/JohanPhotoMan-011.jpg)
![](/media/58624/thumb_1600/JohanPhotoMan-001.jpg)
![](/media/58623/thumb_1600/GRAFT_Bilingual_RGB_2023_GRAFT.png)
Ymunwch â ni yng ngardd GRAFT ar 22 Medi ar gyfer swper tymhorol, wedi'i goginio yn y ffwrn goed, gan defnyddio cynnyrch a dyfir yn yr ardd.
Peidiwch â cholli'r noson arbennig yma o fwyd blasus, trafodaethau diddorol, cerddoriaeth fyw a Bar Botanegol gyda diodydd a chwrw lleol.
Gyda The Shared Plate
(Bydd y digwyddiad hwn yn symud dan do yn yr Amgueddfa mewn tywydd gwael)
Tocynnau £22.50 y pen