Digwyddiadau

Cwrs: Cwrs Cerfio Llwyau - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
14 Medi 2024 , 10:30am - 4:00pm
Pris £65 | £55 Gostyngiad
Addasrwydd 16+

Archebu Tocynnau 

Ymunwch â Vic Phillips o SingleMaltTeapot i ddysgu am yr offer a’r technegau sy’n hanfodol wrth gerfio llwy.

Ar ddiwedd y gweithdy bydd y sgiliau gennych i ddefnyddio cyllyll ar gyfer amrywiaeth o brojectau cerfio, a byddwch wedi creu llwy o bren leim.

Yn ystod y gweithdy byddwn yn trafod:

  • Defnyddio offer torri pren yn ddiogel.
  • Sut i gerfio pren gyda chyllyll.
  • Rhoi gorffeniad hardd i’ch llwy.
  • Chwilio am ddeunyddiau newydd a’r gwahaniaeth rhwng gwahanol fathau o bren
  • Yr offer sydd eu hangen i gerfio a sut i ofalu amdanynt. 

 
Gwybodaeth Ychwanegol:
  • Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis i ddeiliaid tocyn cwrs
  • Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg
  • Gostyngiad: Myfyrwyr gyda cherdyn NUS, pobl sy’n derbyn budd-daliadau. Pobl dros 60 oed a dan 18* (rhaid i blant 16–18 fod yng nghwmni oedolyn sy’n cymryd rhan).
  • Hygyrchedd: Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.

Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn. 


Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.

Digwyddiadau