Digwyddiad:Gwyddoniaeth am y gorau! gyda Big Manny

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Archebu tocyn

Iawn BŴM! 

Ymunwch â'r seren TikTok Big Manny, wrth iddo drafod ei lyfr sydd ar y gweill, Science is Lit. 

Dysgwch sut i fod yn wyddonydd go iawn a chreu arbrofion anhygoel gartref gan ddefnyddio cynhwysion cyffredin. Dewch i edrych ar fyd gwyllt asidau ac alcalïau, a chymryd rhan mewn cwis gwyddoniaeth llawn hwyl dan arweiniad Manny. Hefyd, bydd cyfle i wylio un o'i arbrofion yn fyw o flaen eich llygaid.
Bydd modd cael llyfr wedi’i lofnodi gyda'r awdur ar ôl y sioe hon.
Bydd llyfrau ar gael i'w prynu o siop anrhegion yr Amgueddfa.
Hyd 45 - 60 munud
 
Hanes Manny:
Mae Emanuel Wallace ("Big Manny") yn grëwr cynnwys gwyddoniaeth ac artist cerddoriaeth 26 oed sy'n llwyddo i wneud y tabl cyfnodol a llosgwyr Bunsen yn cŵl unwaith eto. Gyda gradd meistr mewn gwyddoniaeth biofeddygol, mae Manny yn creu cynnwys addas i bob oed a chefndir, sy'n ddifyr, addysgol, ac arbrofol. Mae gan Manny 3.5 miliwn o ddilynwyr ar TikTok ac Instagram gyda'i gilydd, wedi ymddangos ar Blue Peter ac mae'n cydweithio'n rheolaidd â BBC Bitesize.
 
Sylwer: bydd oedolion a phlant angen tocynnau ar gyfer y sioe hon.
 
Cynnig arbennig - Archebwch 3 neu fwy o ddigwyddiadau lle codir tâl yn eich basged docynnau i arbed 30%!
 
...For the full Swansea Science Festival programme please visit: Swansea Science Festival - Swansea University 

Gwybodaeth

27 Hydref 2024, 1.30pm
Pris £3yp
Addasrwydd Plant hŷn, yn eu harddegau ac oedolion
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Cynnws cysylltiedig

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
26 a 27 Hydref 2024, 10am - 4pm

Ymweld

Parcio

Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Mynediad

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Canllaw Mynediad

Lleoliad

Bwyta, Yfed, siopa

  • Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau