Digwyddiad:Gwisg Calico Cymru - Dewch i godi’ch llais gydag edafedd!
Ymunwch â ni mewn gweithdy arbennig i bwytho eich addurn eich hun ar WISG CALICO CYMRU.
Am 10 wythnos o fis Ebrill i fis Mai bydd Gwisg Calico Cymru i’w gweld yn ei holl ogoniant ar blinth mawr ar lawr isaf Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, y gofod perffaith i chi ddod i bwytho eich dyluniad eich hun ar y wisg.
Bydd y sesiynau ar dechneg pwytho dan arweiniad yr artist tecstilau Menna Buss (@menna_buss) felly does dim angen profiad blaenorol.
Yn y sesiynau byddwch yn dylunio ac yna’n pwytho addurn ar thema Cymru – Ddoe, Heddiw ac Yfory, gan ychwanegu eich llais chi at y cynfas arbennig hwn.
Erbyn diwedd ei hamser yn yr Amgueddfa, bydd gennym wisg unigryw wedi’i haddurno’n gywrain.
-Mae'r gweithdai tua 2 awr o hyd
- Oed 16+
- Does dim angen profiad blaenorol!
- Does dim angen dod ag unrhyw beth, ond croeso i chi ddod â’ch edau eich hun.
Cefndir
Yn 2022 cafodd project Y WISG GOCH yr artist Kirstie Macloed ei arddangos yn yr Amgueddfa. Mae’r project hwn, sydd ar fynd ers 15 mlynedd, yn casglu lleisiau merched o bob cwr o’r byd, mewn pwythau.
Cafodd GWISG CALICO CYMRU ei chomisiynu gan yr Amgueddfa, y wisg gyntaf i gael ei chreu wedi’i hysbrydoli gan y wisg goch. Erbyn hyn mae nifer o rai eraill ar draws y byd.
Archebu fel Grŵp Cymunedol ...os ydych chi’n rhan o grŵp cymunedol ac eisiau cyfrannu at y wisg mewn sesiwn arbennig, cysylltwch â ni miranda.berry-bowen@amgueddfacymru.ac.uk
Gwybodaeth
Tocynnau
19 April 2025
Amseroedd ar gael | |
---|---|
10:30 | Gweld Tocynnau |
14:00 | Gweld Tocynnau |
11 May 2025
Amseroedd ar gael | |
---|---|
10:30 | Gweld Tocynnau |
31 May 2025
Amseroedd ar gael | |
---|---|
10:30 | Gweld Tocynnau |
14:00 | Gweld Tocynnau |
7 June 2025
Amseroedd ar gael | |
---|---|
10:30 | Gweld Tocynnau |
14:00 | Gweld Tocynnau |
15 June 2025
Amseroedd ar gael | |
---|---|
10:30 | Gweld Tocynnau |
14:00 | Gweld Tocynnau |