Grwpiau
Mae'r Amgueddfa mewn lleoliad perffaith i chi fwynhau diwrnod i'r brenin. Wedi i chi gael golwg ar ein holl arddangosfeydd a gwrthrychau, gallwch fwynhau'r Ardal Forwrol sy’n llawn llefydd hanesyddol a diddorol. Gallwch gerdded i siopau canol y ddinas mewn pum munud, neu fynd am dro ar hyd y promenâd i weld Bae Abertawe ar ei orau.
Gall grwpiau sy’n archebu ymlaen llaw fanteisio ar:
- Fynediad am ddim
- Gostyngiad o 10% yn caffi yr Amgueddfa os ydych yn gwario mwy na £5 y pen
- Gostyngiad o 10% yn siop yr Amgueddfa os ydych yn gwario mwy na £5 y pen
- Taith gyflwyno
- Lluniaeth am ddim i yrwyr bysiau
Sylwer: ni all grwpiau addysgiadol hawlio gostyngiad yn y bwytai a’r siopau. Ein polisi yw bod yn rhaid i unrhyw blentyn o dan 14 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Am ragor o fanylion ac i archebu’ch ymweliad ymlaen llaw ffoniwch (029) 2057 3600 neu ebostiwch amgueddfayglannau@amgueddfacymru.ac.uk
Oherwydd gwaith adeiladu, ni fydd bysys yn gallu parcio ym maes parcio Ffordd Ystumllwynarth yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau o 7 Mehefin 2019. Mae Cyngor Abertawe yn argymell gadael teithwyr ger Amgueddfa Abertawe (SA1 1SN) a defnyddio'r cyfleusterau Parcio a Theithio ar Ffordd Fabian (Port Tennant, Abertawe, SA1 8LD) cyn dychwelyd i godi'r teithwyr. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.