Lleoliadau Gwaith Myfyrwyr


Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi ddod ar Leoliad Gwaith Myfyriwr? Hoffech chi droi theori yn brofiad ymarferol?

Mae Lleoliadau Gwaith Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr 16 oed a hŷn. Dyma gyfle i chi fel myfyriwr ennill profiad gwaith, datblygu sgiliau ymarferol a chael blas ar opsiynau gyrfa.

Mae rhan fwyaf o'n Lleoliadau Gwaith Myfyrwyr yn cael eu trefnu mewn partneriaeth rhwng Prifysgolion a'r amgueddfa. Os ydych chi'n gweithio i sefydliad addysgol a gyda diddordeb mewn dysgu mwy am gydweithio â ni, cysylltwch â ni. Mae rhai o'n Lleoliadau Gwaith Myfyrwyr yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan yn fan hyn. Dydyn ni ddim yn derbyn CV na llythyrau cyflwyno.

Beth am gofrestru i dderbyn ein rhestr bostio i glywed y diweddaraf am gyfleoedd newydd? Neu dilynwch ni ar X (Twitter) neu Facebook!

Cysylltwch â ni os ydych chi angen cymorth gyda'r broses ymgeisio.

Mae gwybodaeth ar gael hefyd am Ysgoloriaeth Ymchwil PhD yma.


"Diolch i fy lleoliad, dwi wedi elwa ar ddysgu amrywiaeth o sgiliau ymchwil a gwaith maes newydd fydd yn helpu fy nghynlluniau gyrfa yn y dyfodol... Fel darparwr addysg, mae awyrgylch yr Amgueddfa yn bendant yn ffafriol i ddysgu."

Lleoliad Gwaith Myfyrwyr


Cyfleodd Cyfredol

Does dim cyfleoedd ar hyn o bryd. Beth am gofrestru i dderbyn ein rhestr bostio i glywed y diweddaraf am gyfleoedd newydd? Neu gallwch chi ein dilyn ar X (Twitter) neu Facebook!.