Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Gallwch ymweld ag Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru heb archebu ymlaen llaw, ond er mwyn sicrhau eich bod yn cael y gorau o'ch ymweliad, rydym yn argymell eich bod yn archebu tocyn am ddim ymlaen llaw.
Does dim rhaid i chi archebu ymlaen llaw – rydyn ni'n dal i gynnig croeso cynnes i bawb gan gynnwys ymwelwyr sy'n penderfynu ymweld heb archebu tocyn ymlaen llaw. Trwy archebu tocyn ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.
Bydd un o dîm cyfeillgar Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn croesawu ymwelwyr ac yn sganio'ch tocyn i chi neu yn eich cyfeirio at sganiwr i gofrestru eich ymweliad.
Nid yw tocynnau ar gyfer Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn rhoi mynediad i Faddondai Rhufeinig Cadw. Os hoffech ymweld â'r Baddondai Rhufeinig ar yr un pryd ewch i wefan Cadw i gael gwybodaeth am docynnau.
Gallwch archebu tocyn ymlaen llaw hyd at dair wythnos cyn eich ymweliad, a byddwn yn anfon gwybodaeth a diweddariadau allweddol atoch cyn eich ymweliad er mwyn eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.
Er nad oes amser mynediad olaf, rydym yn argymell o leiaf awr i wneud y gorau o'r hyn sydd gan yr Amgueddfa i'w gynnig. Mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn cau am 5pm Llun-Sul rhwng Mawrth a Hydref ac am 4pm rhwng Tachwedd a Chwefror. I weld ein horiau agor, cliciwch yma.
Rydyn ni'n deall y gall cynlluniau newid. Os nad ydych chi'n gallu dod neu os hoffech newid dyddiad eich ymweliad, cysylltwch â tocynnau@amgueddfacymru.ac.uk a bydd un o'r tîm yn hapus i'ch helpu chi.