Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Oes rhaid i mi archebu tocyn ymlaen llaw?
Gallwch chi ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd heb archebu ymlaen llaw, ond er mwyn sicrhau eich bod yn cael y gorau o'ch ymweliad, rydyn ni'n argymell eich bod yn archebu tocyn am ddim ymlaen llaw.
Os yw mynediad am ddim, pam bod rhaid i mi archebu tocyn ymlaen llaw?
Does dim rhaid i chi archebu ymlaen llaw - rydyn ni'n dal i gynnig croeso cynnes i bawb gan gynnwys ymwelwyr sy'n penderfynu ymweld heb archebu tocyn ymlaen llaw. Trwy archebu tocyn ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.
Beth sydd angen i mi ei wneud wrth gyrraedd?
Bydd un o dîm cyfeillgar Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn croesawu ymwelwyr ac yn sganio'ch tocyn i chi neu yn eich cyfeirio at sganiwr i gofrestru eich ymweliad.
Oes angen i mi archebu tocyn i gael mynediad i'r amgueddfa os ydw i wedi archebu tocyn i arddangosfa?
Nac oes - os ydych chi wedi archebu tocyn i arddangosfa, bydd yn cynnwys eich mynediad cyffredinol am ddim a byddwch chi'n derbyn yr holl wybodaeth a diweddariadau ar gyfer eich ymweliad ymlaen llaw.
Pa mor bell ymlaen llaw alla i archebu tocyn?
Gallwch chi archebu tocyn ymlaen llaw hyd at dri mis cyn eich ymweliad, a byddwn yn anfon gwybodaeth a diweddariadau allweddol atoch cyn eich ymweliad er mwyn eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.
Beth yw'r amser diwethaf alla i gyrraedd?
Er nad oes amser mynediad olaf, rydyn ni'n argymell caniatáu digon o amser i wneud y gorau o'r hyn sydd gan yr Amgueddfa i'w gynnig. Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cau am 4 o'r gloch Dydd Mawrth – Dydd Sul. Gallwch chi ddod o hyd i'r oriau agor llawn yma
Dwi ddim yn gallu dod ar y diwrnod a archebais i / dwi eisiau newid i ddiwrnod arall - be ddylwn i ei wneud?
Rydyn ni'n deall gall cynlluniau newid felly peidiwch â phoeni os na allwch ddod mwyach, cysylltwch â tocynnau@amgueddfacymru.ac.uk a bydd un o'r tîm yn hapus i'ch helpu.