Buddion Staff Amgueddfa Cymru

Gwyliau blynyddol

27 diwrnod adeg penodi, yn codi i 32 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth, ynghyd ag un diwrnod braint adeg y Nadolig ac 8 gŵyl banc (ar gyfer staff amser llawn). Defnyddir sail pro rata i gyfrifo gwyliau staff rhan amser.

Oriau hyblyg

Rydym yn gweithredu system oriau hyblyg er mwyn galluogi staff i sicrhau cydbwysedd rhwng eu bywyd cartref a gwaith ac er mwyn helpu i reoli eu hamser mewn ffordd sydd mor effeithiol â phosibl. Mae’r cynllun yn agored i bawb heblaw staff sy’n gweithio ar sail rota. Caiff staff newydd wybod a fyddant yn gymwys i gymryd rhan yn y cynllun adeg eu penodi.

Pensiwn

Rydym yn cynnig cynllun pensiwn Enillion Cyfartalog Gyrfa wedi’u Hailbrisio (“Cynllun Pensiwn Amgueddfa Cymru”). Os ydych yn cael eich cyflogi gan yr Amgueddfa ar gytundeb parhaol neu dymor penodol 2 flynedd neu fwy, byddwch yn ymuno â’r Cynllun yn awtomatig fel rhan o’ch contract cyflogaeth.

Mae’r cyfraniad a dalwch fel aelod o staff yn dibynnu ar eich gradd a swm eich enillion pensiynadwy. Ar hyn o bryd mae staff Gradd A yn talu 6%, mae staff Graddau B ac C yn talu 8%, a staff Graddau D ac uwch yn talu 9%.

Rydym yn cynnig trefniant Cyfnewid Cyflog ar gyfer aelodau’r Cynllun Pensiwn. Mae’n drefniant gwirfoddol ac nid yw’n addas ar gyfer pob aelod o staff.

Hyfforddiant a datblygu

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu rhagorol ar gyfer pob gweithiwr cyflogedig. Rydym yn darparu sesiwn Hyfforddiant Cynefino gynhwysfawr ar gyfer pob aelod newydd o staff ar ôl eu penodi.

Arferion gweithio sydd o gymorth i deuluoedd

Rydym yn cynnig ystod o arferion gweithio sydd o gymorth i deuluoedd megis absenoldeb mamolaeth/tadolaeth, absenoldeb mabwysiadu, seibiant gyrfa, absenoldeb estynedig ac amrywio oriau gwaith.

Cynllun Benthyciad Teithio

Gall staff wneud cais am fenthyciad di-log i brynu tocyn bws blynyddol neu chwarterol neu docyn trên tymhorol hyd at £1,500, neu feic hyd at £300.

Cyfarpar sgrin arddangos

Byddwn yn trefnu cyfradd ostyngol ar sbectol (ar gyfer staff sydd fel arfer yn defnyddio cyfarpar sgrin arddangos am gyfnodau parhaus neu bron yn barhaus am awr neu fwy ar y tro bob dydd).

Cynlluniau buddion

Cynllun Gostyngiad i Staff

Mae gan bob aelod o staff hawl i 20% o ostyngiad yn siopau Amgueddfa Cymru a 25% ostyngiad yn ein caffis.

Undebau llafur

Mae gan aelodau staff yr hawl i ymaelodi ag undeb llafur cofrestredig a chymryd rhan ar unrhyw adeg briodol yng ngweithgareddau’r corff rydych chi’n rhan ohono, gan gynnwys ymgeisio am swydd a’i chyflawni. Yr undebau a gydnabyddir gan Amgueddfa Cymru yw Prospect, PCS ac FDA.