Sut i Wneud Cais
Diben y canllaw hwn yw eich helpu i lenwi eich ffurflen gais a chymryd rhan yn effeithiol yn y broses ddethol. Bydd hyn yn sicrhau bod gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i asesu sut yr ydych yn diwallu gofynion y rôl. Darllenwch y canllaw hwn cyn dechrau ar eich cais.
Mae’r ffurflen gais hon yn rhan bwysig o’r broses ddethol. I sicrhau tegwch i’n holl ymgeiswyr, mae’r penderfyniad i gynnwys ymgeiswyr ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad yn seiliedig ar yr wybodaeth yn y ffurflen gais. Mae’n bwysig eich bod yn cynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl. Ni allwn ystyried unrhyw wybodaeth all fod gennym eisoes amdanoch chi.
Peidiwch ag atodi unrhyw ddogfennau eraill megis CV, tystlythyrau neu gopïau o dystysgrifau addysg oni bai ein bod wedi gofyn i chi wneud hynny. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau ar ffurf CV.
Bydd ein gwefan recriwtio ar-lein yn eich arwain drwy'r broses ymgeisio wrth i chi symud ymlaen o sgrin i sgrin. Mae gennych chi gyfle i arbed, gadael a dychwelyd i'r cais unrhyw bryd cyn dyddiad cau'r swydd.
Gweler dadansoddiad isod i sicrhau eich bod yn cwblhau pob adran yn gywir.
Hygyrchedd
Os hoffech chi gael y ffurflen gais mewn fformat arall, er enghraifft, papur; print bras; neu sain, cysylltwch â’r adran Adnoddau Dynol, drwy e-bostio ad@amgueddfacymru.ac.uk neu ffonio (029) 2057 3143.
Os hoffech chi drafod a threfnu unrhyw addasiadau rhesymol i’ch galluogi i wneud cais am rôl gyda ni, neu os hoffech ragor o wybodaeth am hygyrchedd yn y gweithle, cysylltwch â’r adran Adnoddau Dynol, drwy e-bostio bostio ad@amgueddfacymru.ac.uk neu ffonio (029) 2057 3143. Byddwn ni’n fwy na pharod i helpu.
Dechrau Arni
Creu cyfrif
Os oes gennych chi gyfrif defnyddiwr yn barod, rhowch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair i fewngofnodi.
Os nad oes gennych chi gyfrif, bydd angen i chi greu un trwy glicio ar 'Cofrestru' ar yr hafan. Cwblhewch y dudalen gofrestru a chadarnhewch eich bod wedi darllen y datganiad preifatrwydd i gofrestru. Bydd angen i chi ddarllen a chytuno i'r Polisi Preifatrwydd cyn i chi allu creu cyfrif defnyddiwr o fewn y system.
Unwaith y byddwch chi wedi cyflwyno'r wybodaeth hon, byddwch chi’n cael eich tywys i'r dudalen groeso, lle byddwch chi’n gweld rhestr o swyddi gwag cyfredol.
Ffurflen Gais
Ydych chi wedi gwneud cais o'r blaen?
Os ydych chi wedi gwneud cais am swyddi gwag blaenorol, bydd unrhyw wybodaeth a roddoch chi bryd hynny yn cael ei llenwi'n awtomatig yn adrannau perthnasol y cais newydd.
Dylech chi adolygu unrhyw wybodaeth sydd wedi'i llenwi ymlaen llaw i sicrhau ei bod i gyd yn gyfredol cyn gwneud cais.
Adran 1 – Manylion Personol
Cwblhewch gynifer o feysydd manylion personol â phosibl. Mae'r meysydd hynny sydd wedi'u nodi â seren yn orfodol a rhaid eu llenwi os ydych chi am fwrw ymlaen â'ch cais.
Gallwch chi ddiwygio'r cofnodion ar gyfer eich manylion personol, eich gyrfa, a'ch hanes addysg unrhyw bryd drwy glicio ar 'golygu' a 'diweddaru' wrth i chi gwblhau cais.
Gallwch chi hefyd wneud newidiadau drwy fynd i'r ddolen 'Golygu Proffil' ar hafan yr ymgeisydd a dewis y tab sydd angen ei ddiwygio.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw'ch cyfeiriad e-bost yn gyfredol ym manylion eich proffil. Byddwn ni’n anfon pob gohebiaeth atoch chi trwy e-bost, ac allwn ni ddim fod yn gyfrifol os na fyddwch chi’n derbyn gwybodaeth bwysig oherwydd nad yw cyfeiriad e-bost wedi'i newid ar y system.
Ar gyfer y cwestiwn sgiliau iaith, cyfeiriwch at y canllawiau lefel iaith Canllaw ar gyfer lefelau iaith Gymraeg | Museum Wales (amgueddfa.cymru)
Adran 2 – Hanes Cyflogaeth
Gan ddechrau gyda'ch cyflogwr presennol neu fwyaf diweddar, rhowch fanylion eich hanes gwaith cyflawn dros y tair blynedd diwethaf.
Os oes angen i chi fewnbynnu mwy nag un set o fanylion cyflogwr, cliciwch ar 'ychwanegu' a bydd llinell newydd yn ymddangos. Gall hyn gynnwys gwaith cyflogedig, gwaith gwirfoddol neu brofiad gwaith.
Dylech chi hefyd gynnwys cofnodion ar gyfer unrhyw gyfnodau pan nad oeddech chi’n gyflogedig (e.e. addysg amser llawn, di-waith, absenoldeb mamolaeth, ac ati).
Adran 3 – Cymwysterau a hyfforddiant
Gan ddechrau gyda'r cymhwyster diweddaraf a ddyfarnwyd, rhowch fanylion y brifysgol neu'r sefydliad addysgol a fynychwyd, pwnc neu faes astudio, y cymhwyster a ddyfarnwyd a blwyddyn y dyfarniad. Rhowch fanylion unrhyw gymwysterau rydych chi’n eu hastudio ar hyn o bryd neu'n aros am ganlyniadau a'r dyddiad cwblhau disgwyliedig.
Os oes angen i chi gynnwys mwy nag un cofnod, cliciwch ar 'ychwanegu' a bydd llinell arall yn ymddangos. Gallwch chi restru uchafswm o dri sefydliad yn yr adran hon.
Adran 4 – Sgiliau a chymwyseddau dymunol/hanfodol penodol i'r swydd
Bydd yr adran hon yn cyfeirio'n ôl at y disgrifiad swydd sydd ynghlwm wrth yr hysbyseb swydd o dan ‘Swyddi Gwag’. Edrychwch ar y sgiliau sydd eu hangen ac ysgrifennwch sut mae eich profiad yn ymwneud â phob un.
Adran 5 – Monitro cydraddoldeb
Rydyn ni wedi ymrwymo i bolisi cyfle cyfartal yn ein harferion cyflogaeth. Nod y polisi yw dileu gwahaniaethu anghyfreithlon ac annheg ar unrhyw sail gan gynnwys rhyw, ethnigrwydd, oedran ac anabledd.
Mae pob maes yn orfodol, ond mae gennych chi’r opsiwn i ateb 'gwell gennyf beidio â dweud' ar gyfer rhai cwestiynau. Mae'r wybodaeth a gyflwynwch yma yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Ni fydd yn cael ei defnyddio yn y broses ddethol nac ar gael i unrhyw un sy'n ymwneud â llunio rhestr fer.
Adran 6 – Datganiad
Mae pob datganiad yn orfodol i gwblhau'r cais. Darllenwch a chadarnhewch bob adran i fynd ymlaen i'r adran olaf.
Adran 7 – Cadarnhau
Bydd y dudalen gadarnhau yn rhoi rhagolwg i chi o'r cais wedi'i gwblhau. Rydyn ni’n argymell adolygu eich cais cyn ei gyflwyno, gan na fydd ar gael i'w weld na'i ddiwygio unwaith y byddwch chi’n clicio ar y botwm 'cyflwyno'.
Unwaith y byddwch chi wedi cyflwyno eich cais, byddwch chi’n derbyn e-bost yn cadarnhau ein bod ni wedi derbyn eich cais.
Ar ôl i chi wneud cais
Datblygiad y cais
Byddwch chi’n cael gwybod am ddatblygiad eich cais trwy e-byst a fydd yn cael eu hanfon i'ch cyfrif defnyddiwr ac i'r cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwch i fewngofnodi. Gallwch chi gael mynediad at unrhyw negeseuon e-bost a dderbyniwyd yn eich cyfrif defnyddiwr trwy glicio ar y tab 'Negeseuon' yn yr hafan recriwtio.
Llunio rhestr fer
Mae llunio rhestr fer yn dechrau pan fyddwch chi’n cyflwyno'ch cais i'r system ar-lein. Caiff ceisiadau eu hadolygu gan banel, a fydd yn ystyried a yw’r cais wedi dangos tystiolaeth glir ei fod yn bodloni meini prawf manyleb person y swydd.
Adborth
Os na fyddwch chi’n llwyddo i gael cyfweliad, byddwn ni’n anfon hysbysiad e-bost atoch chi cyn gynted ag y bydd y broses o lunio rhestr fer wedi'i chwblhau.
Yn dilyn cyfweliad, gellir gofyn am adborth drwy e-bostio bostio ad@amgueddfacymru.ac.uk neu ffonio (029) 2057 3143
Cyfweliadau
Os cewch chi eich dewis ar gyfer cyfweliad, byddwn ni’n anfon e-bost atoch chi yn nodi lleoliad, amseriad a fformat y cyfweliad. Os oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau arnoch chi i'ch helpu i fynychu cyfweliad, rhowch wybod i ni.
Cynnig cyflogaeth
Yn dilyn y broses gyfweld, bydd aelod o'r panel yn cysylltu â'r ymgeisydd llwyddiannus, a bydd yn cael gwybod y cynigir y swydd iddo.