Arddangosfa: Blaenafon - Dathliad Treflun
Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Darganfod mwy am hanes Blaenafon.
Mae’r arddangosfa hon wedi’i hysbrydoli gan weithgaredd cymunedol a gyflwynwyd gan Grŵp Hanes Treftadaeth Blaenafon.
Mae’r grŵp cymunedol yn cynnwys gwirfoddolwyr sy’n frwd dros hanes Blaenafon.
Mae Grŵp Hanes Treftadaeth Blaenafon yn ymchwilio ac yn cofnodi hanes lleol i sicrhau nad yw straeon lleol yn cael eu colli a’u hanghofio tra’n darparu adnodd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.