Tocynnau Job-a-Mas
Mae 'Job-A-Mas' yn deillio o derm gâi ei ddefnyddio yn y diwydiant glo i gyfeirio at dasg oedd yn cael blaenoriaeth a fyddai'n cael ei wneud yn gyflym ac yn effeithiol ar amser penodol.
Mae tocyn Job-A-Mas yn eich galluogi i archebu slot am amser penodol ar y Daith Dan Ddaear unigryw.
Rhwng 1 Hydref a 3 Tachwedd 2024 bydd yn RHAID prynu tocynnau ar gyfer y Daith Danddaear unigryw gyda thocyn Job-A-Mas £8 gyda slot amser i bob person, NEU docyn £5 ar y diwrnod sydd â niferoedd cyfyngedig a ddim yn gwarantu slot amser, ac efallai bydd yn rhaid i chi aros am gyfnod, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur.
Y tu allan i'r cyfnod hwn mae tocynnau Job-A-Mas ar gael i'w prynu NEU, gallwch barhau i gael mynediad i'r Daith Danddaear am ddim, ond efallai y bydd yn rhaid i chi aros am gyfnod, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur.
Mae mynediad i'r Amgueddfa yn parhau i fod yn rhad ac am ddim.
Archeb grŵp Telerau ac Amodau