Sgrinwyna 2016
18 Chwefror 2016
,Mae’r rhyngrwyd yn dwlu ar anifeiliaid bach, ac ar Ddydd Gŵyl Dewi bydd y #sgrinwyna yn dychwelyd – ffrwd fyw 24 awr yn dangos hynt a helynt y sied ŵyna yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd. Lansiwyd y project yn 2015 ac aeth y neges ar dân dros y cyfryngau cymdeithasol. Ond dan yr wynebau ciwt mae neges addysgiadol...
“Roedd y #sgrinwyna yn gyfle i ni rannu ein harbenigedd a’n sgiliau traddodiadol â phobl o bedwar ban byd, drwy gyflwyno’r tymor ŵyna ar y we mewn cyfres o erthyglau, digwyddiadau a ffrydiau fideo byw. Drwy hyn dyma ni’n treblu’r amser y mae defnyddwyr yn ei dreulio ar y wefan, ar gyfartaledd, a chynyddu cyfraniad ymwelwyr at y drafodaeth ar gynnyrch Cymreig, adnoddau naturiol, lles anifeiliaid ac amaeth.”
Sara Huws – Swyddog Cynnwys Digidol, Amgueddfa Cymru
Pwyntiau pwysig wrth gwrs, ond... DRYCHWCH AR YR ŴYN BAAAAAACH!!!
Yn ogystal â rhoi mynediad 24 awr i’r sied ŵyna, mae’r #sgrinwyna yn cadw cofnod cyfredol o enedigaethau (Gofal – gall cyfri defaid achosi blinder a chwsg!). Mae yno hefyd oriel uchafbwyntiau o’r sied a’r newyddion diweddaraf am iechyd y defaid a’r ŵyn ar y blog. Gall ymwelwyr hefyd alw draw i’n gweld ni ar benwythnosau a gwyliau ysgol drwy gydol Mawrth. Os ydych chi am dorchi llewys, gallwch chi fwynhau diwrnod yn helpu yn y sied ŵyna ar un o gyrsiau newydd Profi Ŵyna yr Amgueddfa.
Os ydych chi’n un o gewri’r cyfryngau cymdeithasol, am fod yn fugail, neu yn ymwelydd cyson â Sain Ffagan galwch draw i weld gŵyl y geni yn yr Amgueddfa dros y gwanwyn.
#sgrinwyna #instalamb @StFagans_Museum
sylw - (3)