Hafan y Blog

Sgrinwyna 2016

Bernice Parker, 18 Chwefror 2016

Mae’r rhyngrwyd yn dwlu ar anifeiliaid bach, ac ar Ddydd Gŵyl Dewi bydd y #sgrinwyna yn dychwelyd – ffrwd fyw 24 awr yn dangos hynt a helynt y sied ŵyna yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd. Lansiwyd y project yn 2015 ac aeth y neges ar dân dros y cyfryngau cymdeithasol. Ond dan yr wynebau ciwt mae neges addysgiadol...

 

“Roedd y #sgrinwyna yn gyfle i ni rannu ein harbenigedd a’n sgiliau traddodiadol â phobl o bedwar ban byd, drwy gyflwyno’r tymor ŵyna ar y we mewn cyfres o erthyglau, digwyddiadau a ffrydiau fideo byw. Drwy hyn dyma ni’n treblu’r amser y mae defnyddwyr yn ei dreulio ar y wefan, ar gyfartaledd, a chynyddu cyfraniad ymwelwyr at y drafodaeth ar gynnyrch Cymreig, adnoddau naturiol, lles anifeiliaid ac amaeth.”       
Sara Huws – Swyddog Cynnwys Digidol, Amgueddfa Cymru

Pwyntiau pwysig wrth gwrs, ond... DRYCHWCH AR YR ŴYN BAAAAAACH!!!

Yn ogystal â rhoi mynediad 24 awr i’r sied ŵyna, mae’r #sgrinwyna yn cadw cofnod cyfredol o enedigaethau (Gofal – gall cyfri defaid achosi blinder a chwsg!). Mae yno hefyd oriel uchafbwyntiau o’r sied a’r newyddion diweddaraf am iechyd y defaid a’r ŵyn ar y blog. Gall ymwelwyr hefyd alw draw i’n gweld ni ar benwythnosau a gwyliau ysgol drwy gydol Mawrth. Os ydych chi am dorchi llewys, gallwch chi fwynhau diwrnod yn helpu yn y sied ŵyna ar un o gyrsiau newydd Profi Ŵyna yr Amgueddfa.

Os ydych chi’n un o gewri’r cyfryngau cymdeithasol, am fod yn fugail, neu yn ymwelydd cyson â Sain Ffagan galwch draw i weld gŵyl y geni yn yr Amgueddfa dros y gwanwyn.

#sgrinwyna #instalamb @StFagans_Museum

Bernice Parker

Swyddog Digwyddiadau Cyhoeddus

sylw (3)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
April Obersteiner
10 Mawrth 2017, 04:15
Having a wonderful time watching ewe ( ha ) all from here in Nanoose Bay, on Vancouver Island. Good luck with all the lambs ~ love them !
Anna
13 Mawrth 2016, 19:26
The lambcam is fantastic. Yesterday I watched two lambs being born so made a special trip to go and see them on the farm. Only minutes ago I watched another two lambs being born on the lambcam. What a great idea. Thank you. I'll be visiting again next weekend.
Grace
19 Chwefror 2016, 10:18
A sure sign that Spring is almost sprung and the best thing on the internet, bring on the lambs