Cofnodion blodau cyntaf!
1 Mawrth 2016
,Helo Gyfeillion y Gwanwyn,
Llongyfarchiadau i'r ysgolion sydd wedi rhannu eu cofnodion blodau ar wefan Amgueddfa Cymru:
Cennin Pedr:
Enw’r Ysgol |
Dyddiad blodeuo gyfartaledd |
Stanford in the Vale Primary School |
23 Chwe 2016 |
Broad Haven Primary School |
23 Chwe 2016 |
Ysgol Nant Y Coed |
25 Chwe 2016 |
Hakin Community Primary School |
29 Chwe 2016 |
Crocws:
Enw’r Ysgol |
Dyddiad blodeuo gyfartaledd |
Ysgol Gynradd Gymraeg Llantrisant |
31 Ion 2016 |
Hakin Community Primary School |
5 Chwe 2016 |
Burnside Primary School |
16 Chwe 2016 |
Ysgol Nant Y Coed |
22 Chwe 2016 |
Ysgol Gynradd Llandwrog |
22 Chwe 2016 |
Stanford in the Vale Primary School |
24 Chwe 2016 |
Broad Haven Primary School |
25 Chwe 2016 |
Cadwch lygad ar eich planhigion, bydd y blodau’n ymddangos unrhyw bryd! Cofiwch rannu eich cofnodion blodau ar wefan Amgueddfa Cymru. Mae fy mlog diwethaf a’r adnodd cadw cofnodion blodau ar y wefan yn rhoi cyngor ar sut i wneud hyn. Pan fydd yr holl blanhigion wedi blodeuo a phawb wedi rhannu eu cofnodion, byddwn ni’n gallu cyfrifo dyddiad blodeuo cyfartalog y Crocws a'r Cennin Pedr. Gallwn ni wedyn gymharu ein canfyddiadau gyda blynyddoedd blaenorol.
Roeddwn i wedi rhagweld y byddai’r planhigion yn blodeuo yn gynharach eleni oherwydd tywydd cynnes Rhagfyr. Ond efallai bod yr oerfel rhwng Ionawr a Mawrth a llai o oriau golau dydd wedi effeithio ar ein bylbiau. Yn y blog nesaf, bydda i’n edrych ar gyfartaleddau a chymharu tywydd eleni â blynyddoedd blaenorol.
Cafwyd rhai sylwadau hyfryd dros yr wythnosau diwethaf sy’n dangos cymaint ydych chi’n gofalu am eich planhigion. Diolch i bob un ohonoch am ofalu mor dda am eich planhigion.
Daliwch ati gyda'r gwaith da Gyfeillion y Gwanwyn.
Athro’r Ardd