Y Celc Bronington
6 Gorffennaf 2018
,Anna Edwards, yn siarad am y ddarganfyddiad o’r Gelc Bronington ar eu fferm hi yn 2014:
Roedden ni wedi perchen ar y tir am dair mlynedd pan ddarganfyddon ni'r casgliad, er ein bod ni wedi rhentu o am flynyddoedd cyn hynny. Doedd neb wedi bod yno efo canfodyddion metel o'r blaen.
Dw'i bob amser yn gwerthfawrogi hanes a dwi'n cofio gorlethu'n gyffrous. Mae wybodaeth leol wedi dysgi i ni bod llawer o weithgareddau wedi bod yn yr ardal yn y gorffennol fel yn ystod y Rhyfel Cartref a'r diwydiant halen. Mae ffermio o dydd i ddydd wedi agor i fyny crochenwaith man, botwmau ond mae arwyddocad a phwysigrwydd y casgliad yn syfrdanol a mwy nag unrhywbeth gallwn i fod wedi dychmygu.
Fel y mwyafrif o bethau pwysig sy'n digwydd yn ein bywyd; mae digwyddiad pegynol fel hwn yn troi i fyny ar siawns.
Collodd fy ngwr ei oriadau yn ystod y cynhaeaf a gofynnodd i'r defnyddwyr canfodyddion metel lleol i helpu. Cafodd fy ngwr ei oriadau nôl a rhoddodd o wahoddiad i'r dynion i ddod yn ôl yn eu hamser hamdden.
Roedd gweld a theimlo'r casgliad yn ryfeddol ac yn gyffrous i fod y person cyntaf i wisgo'r modrwy ers 500 mlynedd. Roedd y cyflwr yn gysefin ac yn edrych yn newydd sbon. Roedd rhaid i ni eistedd i lawr i werthfawrogi'r sefyllfa. I bwy roedd hi’n perthyn? Pwy wisgodd o? Sut bobl oedden nhw? Oedd y trysor wedi ei guddio neu ddwyn?
Mae darganfod y casgliad wedi cryfhau ein cysylltiad efo'r tir ble rydyn ni wedi gweithio mor galed. Mae'n fraint i gyrraedd mor bell ac yn anrhydedd mawr i fod yn gysylltiedig efo'r arian a'r modrwy. Tystiolaeth o'r gorfennol, pressenol a'r dyfodol i ni.
Yn ogystal â hyn mae'n syndod i mi am y diddordeb sydd wedi ei gynyddu yn lleol ac ymhellach. Ymddangosodd yn y papur newydd, derbynion alwadau ffôn o radio Chicago a siaradon yn fyw i holl dalaith Illinois, mwy i ddilyn!
Mae'n bleser gweld y plant ysgol yn cael eu cynnwys yn y cyffro ac aelodau'r gymuned trwy’r prosiect - "Buried in the Borderlands"