Llys Llywelyn - lliwio'r gorffennol
27 Gorffennaf 2018
,Mae Llys Llywelyn - cywaith adeiladu diweddaraf Amgueddfa Werin Cymru - yn agosau at orffen, a bydd ar agor yn yr Hydref.
Am fwy o wybodaeth am ail-greu y Llys, gwelwch yr erthyglau eraill yma:
https://amgueddfa.cymru/blog/2015-04-22/Llys-Rhosyr-ffenest-ir-gorffennol/
https://amgueddfa.cymru/blog/2015-11-09/Palas-yr-Esgob-Henffordd/
https://amgueddfa.cymru/blog/2016-01-06/Llys-Llywelyn-fframior-gorffennol/
https://amgueddfa.cymru/blog/2017-08-21/Llys-Llywelyn---paratwch/
Wrth ail-greu Llys Brenhinol o’r ddeuddegfed ganrif, mae natur addurn mewnol y neuadd yn elfen holl bwysig. Roedd adeiladau o’r cyfnod, o statws uchel, yn aml yn cynwys cerrig cerfiedig. Roeddent yn dangos wynebau pobl, anifeilaid a phatrymau geometrig. Byddent wedi eu paentio yn amryliw yn wreiddiol, ond erbyn hyn wrth gwrs, bach iawn o’r lliw sydd wedi goroesi.
Fel bod Neuadd y Llys yn driw I’r cyfnod rydym yn ail-greu addurn yn yr arddull Romanesg, gyda help llaw ein Gwirfoddolwyr Cadwraeth. Mae’r waliau o gerrig wedi eu gwyngalchi ac yn awr maen’t yn cael eu addurno I efelychu gwaith cerrig mwy cywrain (a elwir yn ashlar). Roedd hwn yn dric cyffredin I wneud strwythur adeilad I edrych yn fwy crand nag yr oedd mewn gwirionedd.
Mae ffram bren sylweddol y neuadd yn cael ei addurno hefyd. Chevrons coch a gwyn am yn ail sydd yn addurno’r chwech postyn derw. Mae’r patrwm wedi ei seilio ar golofnau cerrig cerfiedig a welir ym Mhriordi Penmon yn Ynys Môn. Mae’r safle yma yn ffynhonell bwysig o wybodaeth oherwydd ei fod ond yn 19 milltir o Llys Rhosyr - sail yr ail-greuad, ac yn dyddio I’r un cyfnod. Mae’r bwau mawr o few nein Llys ni sydd yn cysylltu’r pyst wedi eu addurno hefyd, ag eto yn efelychu gwaith ashlar. Mae’r rhain mor dal fe fu rhaid defnyddio peirianwaith modern I godi ein staff a gwirfoddolwyr I’r uchder cywir yw paentio.
Fe fu rhaid paratoi y gwaith pren a’r waliau cerrig yw paentio gan eu gorchuddio gyda glud a greuwyd o groen cwngingen wedi ferwi. Mae’r paent o ochre coch neu sialc gwyn wedyn yn gludo yn well. Nid paent fydd yr unig addurn cofiwch. Fe fydd crogleni brodwaith amryliw a llestri drudfawr ym mhen uchaf Neuadd y Tywysog.
Mae Llys Llywelyn yn rhan o ail-ddatblygiad sylweddol o Amgueddfa Werin Cymru. Fe’i arianwyd gan yr Heritage Lottery Fund drwy y Loteri Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru a nifer eraill.