Hafan y Blog

Llys Rhosyr: ffenest i'r gorffennol

Dafydd Wiliam, 22 Ebrill 2015

Mae ein neuadd ganoloesol yn codi’n gyflym. Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar orffen ffenestri yr adeilad lleiaf o ddau. Adeilad B yw'r enw dros dro am hwn, ac yn y gorffennol fe allai wedi bod yn siambr wely’r tywysog (gan fod enghreifftiau eraill o neuadd a siambr gyfagos yn bodoli) neu yn gegin, a fyddai hefyd yn debygol o fod yn agos i'r neuadd (oherwydd pwy fuasai am wledda ar fwyd oer?).

Mae'r ffenestri yn Romanésg eu harddull, sy’n nodweddiadol o'r cyfnod. Yn gul ar du allan yr adeilad ond yn lledaenu’n sylweddol ar y tu fewn, mae’r cynllun yn manteisio i’r eithaf ar y golau naturiol. Mae dau reswm pam eu bod mor gul: mae ffenestri bach yn haws yw hamddiffyn na ffenestri mawr, ac felly roeddent yn elfen gyffredin mewn adeiladau amddiffynnol fel cestyll; ac yn ail, gan bod gwydr ffenest yn gymharol brin yn y cyfnod roedd ffenestri bach yn lleihau’r drafft oer a allai ddod i mewn. Carreg wastad sydd ar ben bob ffenest, ond gallai hefyd fod yn fwa cerrig – roedd y naill ddull yn gyffredin yn y cyfnod. Mi fydd caeadau pren dros y ffenestri i’w cau pan fydd plant ysgol yn aros dros nôs.

Yn ogystal â'r gwaith cerrig, mae'r gwaith o lifio pren i ffrâm y to wedi cychwyn yn ddiweddar hefyd. Camp grefftus tu hwnt yw ffurfio darn pren sgwâr o gainc coeden dderw. Dim ond mewn llinell syth y gall y 'band-saw' dorri, felly mae'r gainc yn gorfod cael ei lleoli yn union cyn cychwyn y gwaith llifio. Mae angen ei addasu i lan ag i lawr, yn ogystal ag i'r chwith ag i'r dde, oherwydd gall un toriad gwael effeithio ar y toriadau dilynol i’r fath raddau nes bod y darn pren yn annefnyddiadwy.

 

Dafydd Wiliam

Prif Guradur: Adeiladau Hanesyddol
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.