Beth yw enw go iawn Dippy?
24 Ionawr 2020
,Dippy yw ein henw ni ar y sgerbwd deinosor hoff, ac rydyn ni’n gwybod fod ganddo hanes diddorol. Ond ai Diplodocus fu’r enw ar y ffosilau yma erioed? Wel, na, mae hynny'n annhebygol...
Rydyn ni wedi clywed sut y daeth 'Dippy' i Lundain ym 1905 yn gast plastr o'r esgyrn ffosil gwreiddiol yn Amgueddfa Carnegie, Pittsburgh. A, diolch i balaentolegwyr, gallwn ei ddychmygu'n anifail byw yn pori coedwigoedd Jwrasig, 145-150 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn diogelu ei hun rhag ysglyfaethwyr gyda'i gynffon chwip.
Ond beth am weddill y stori? O ble ddaeth y ffosilau hyn?
Ym 1898, diolch i'r diwydiant dur, Andrew Carnegie oedd un o'r dynion mwyaf cyfoethog yn y byd. Roedd yn brysur yn rhoi ei arian i lyfrgelloedd ac amgueddfeydd. Pan glywodd am y deinosoriaid anferth oedd yn cael eu darganfod yng ngorllewin America, dywedodd rywbeth fel “Dwi eisiau un o rheina!” ac anfonodd dîm o Amgueddfa Carnegie i chwilio am yr “anifail mwyaf anferth yma”.
Felly, ym 1899, yn nyddiau olaf Hen Orllewin America, cafodd sgerbwd Diplodocus ei ddarganfod yn Sheep Creek, Albany County, ar wastadeddau Wyoming. Y dyddiad, fel mae'n digwydd, oedd 4 Gorffennaf, Diwrnod Annibyniaeth America. Ac felly y cafodd y ffosil ei lysenw cyntaf gan dîm Carnegie, 'The Star Spangled Dinosaur'. Ond, ymhen hir a hwyr, cafodd y rhywogaeth newydd hon ei chyhoeddi yn swyddogol fel Diplodocus Carnegii.
Byddai safle'r cloddio wedi edrych yn debyg iawn i'r safle tebyg yma gerllaw yn Bone Cabin Quarry, yn yr un flwyddyn.
Mae'r lluniau yma o ddiwedd y 1800au o rannau eraill o Albany County, Wyoming, yn ein helpu i greu darlun (o Wikimedia Commons).
Enw cyntaf Dippy, 'Unkche ghila'
Ond beth am frodorion y gwastadeddau? Oni fyddai'r brodorion wedi darganfod ffosilau deinosor cyn y gwladychwyr Ewropeaidd? Yn ei llyfr, Fossil Legends of the First Americans, mae Adrienne Mayor yn dangos y gwnaethon nhw. Dychmygodd y brodorion ffurfiau gwreiddiol y ffosilau fel Madfallod Anferth, Adar y Taranau a Bwystfilod Dŵr, ac roedd sawl un o'r casglwyr deinosoriaid enwog yn dewis brodorion yn dywyswyr. Mae'r llyfr yma'n dangos fod y brodorion wedi sylwi ar y prosesau daearegol fel difodiant, llosgfynyddoedd a newid yn lefel y môr a’u bod yn sail i’w credoau am ffosilau.
( “Clear”, Pobl Lakota, 1900. Heyn & Matzen )
Y Lakota Sioux oedd brodorion y gwastadeddau lle cafwyd hyd i ffosilau Diplodocus. Ganwyd James LaPointe, pobl Lakota, ym 1893. Dyma hanes a glywodd pan yn fachgen:
“Roedd y Sioux yn galw'r creaduriaid hyn, sy'n cymharu'n fras â deinosoriaid, yn 'Unkche ghila'. Roedd y creaduriaid siâp rhyfedd yn crwydro'r tir mewn grwpiau mawr, ac yna'n diflannu. Mae esgyrn anferth y creaduriaid hyn, sydd bellach wedi diflannu, yn nhiroedd garw de a dwyrain y Bryniau Du. Dyw e ddim yn glir os wnaeth yr unkche ghila ddiflannu, ond mae daeareg y Sioux yn nodi eu bod yn dal i fod o gwmpas pan gododd y Bryniau Du o'r ddaear."
O lyfr James R. Walker, 1983, Lakota Myth.
Felly, trwy law Adrienne Mayor, dyma roi'r gair olaf i Wasanaeth Parciau Cenedlaethol yr UDA:
"Mae straeon a chwedlau'r brodorion yn cynnig persbectif unigryw i arwyddocâd ysbrydol traddodiadol ffosilau ac yn gyfle heb ei ail i ddangos y cysylltiad anhepgor rhwng pobl a natur." Jason Kenworthy a Vincent Santucci, A Preliminary Inventory of National Park Service Paleontological Resources in Cultural Resource Contexts.