Datblygu Sgiliau ac Addysg Gymunedol yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
4 Chwefror 2020
,Yn ystod 2019, treuliom amser yn datblygu rhaglen sgiliau San Ffagan gan gydweithio â phartneriaid a chymunedau i greu cyfleoedd ar gyfer addysg oedolion a datblygu sgiliau, fel rhan o waith menter Cyfuno a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. I nodi lansiad adran newydd ar ein gwefan addysg ar gyfer Addysg Gymunedol dyma ddiweddariad ar yr hyn sydd wedi'i gyflawni hyd yn hyn, a beth sydd i ddod yn 2020.
Addysg Gymunedol a Datblygu Sgiliau:
Rydyn ni wedi cydweithio â sefydliadau megis The Wallich, Hafal, Crisis ac Oasis Cardiff i greu sesiynau blas ar sgiliau. Mae gweithdai trin lledr a chopr wedi ysgogi pobl i ddwyn ysbrydoliaeth o gasgliadau'r Amgueddfa, a'i blethu â'u profiadau diwylliannol eu hunain ym mhob sesiwn.
Dyma nhw'n rhannu eu profiadau gyda ni, gan gynnwys y detholiad canlynol o uchafbwyntiau:
"Cyfareddol, diddorol, gwerth chweil."
"Doeddwn i byth wedi trin lledr o'r blaen, felly roedd e'n ddiddorol ac ymlaciol."
Hyd yn hyn mae 243 o bobl wedi cymryd rhan mewn sesiynau rhwng Ebrill a Rhagfyr 2019, ac mae rhagor ar y gweill ar gyfer 2020.
Partneriaethau Widening Access:
Rydyn ni wedi cydweithio â sefydliadau megis adran Widening Access Prifysgol Fetropolitan Caerdydd er mwyn dod â rhaglenni addysg hygyrch i'r Amgueddfa, gan ddefnyddio ein casgliadau i ehangu ac ychwanegu gwerth i'r potensial dysgu. Yn 2019, cynhaliwyd dau gwrs ysgrifennu creadigol a chwrs therapi ategol yn Sain Ffagan. Mae cwrs therapi ategol arall yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, ac mae cyrsiau pellach ar y gweill eleni.
Detholiad o adborth dysgwyr:
"Mae'r cwrs wedi cynyddu fy hyder a dangos i fi lle ydw i am wella."
"Wedi mwynhau'r cwrs yn fawr, tiwtora da ac awyrgylch cefnogol."
Sgiliau iaith:
Mae creu cyfleon i bobl ddysgu a datblygu eu sgiliau iaith yn rhan bwysig o'r rhaglen datblygu sgiliau. Yn 2019, adeiladodd Sain Ffagan ar ei phartneriaeth ag Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd a ddarparodd gwrs Mynediad 1 20 wythnos (Ionawr i Orffennaf 2019). Aeth nifer o'r dysgwyr ymlaen i gofrestru ar gyfer y Cwrs Mynediad 2 a ddechreuodd ym mis Medi 2019. Dechreuodd cwrs Mynediad 1 newydd ym mis Ionawr.
Mae dysgwyr ESOL yn elwa o adnoddau dysgu ESOL Sain Ffagan, a ddatblygwyd ar y cyd â Choleg Caerdydd a'r Fro (CAVC), gan gynnig yr Amgueddfa fel lleoliad croesawgar i ddysgu, rhannu diwylliant a datblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. Mae grwpiau wedi ymweld o golegau megis CAVC a’r adnoddau yn cael eu lawrlwytho yn rheolaidd o wefan yr Amgueddfa - cyfanswm o 174 weithiau rhwng Mai a Rhagfyr 2019.
Eleni rydym yn dathlu'r llwyddiant hwn ac yn gobeithio ei ddatblygu ymhellach drwy lansio ardal newydd ar ein gwefan ar gyfer Addysg Gymunedol. Ewch i'n gwefan i ddysgu rhagor am sut i gymryd rhan a threfnu ymweliad.
Diolch i bob cyfrannwr, y sefydliadau partner a'r tîm yn Sain Ffagan am bob llwyddiant hyd yn hyn.