Crynodeb o Leoliad Gwaith Archeoleg 2022-23 David Hughes (ar Leoliad Gwaith i Fyfyrwyr), 13 Tachwedd 2023 Mae lleoliadau gwaith i fyfyrwyr yn Amgueddfa Cymru yn gallu bod yn gystadleuol, yn enwedig rhai ym maes archeoleg. Roeddwn wrth fy modd yn cael lle ar leoliad i helpu’r Amgueddfa asesu a chatalogio gweddillion dynol.Gan ymuno â grŵp bach o unigolion ar leoliad, rhai ohonynt yn fyfyrwyr o gwrs Gwyddor Archeolegol Caerdydd, buom yn gweithio ochr yn ochr â’r Curadur i asesu sgerbydau o fynwent ganoloesol gynnar yn Llandochau, ger Caerdydd. Datgelodd y cloddiadau ar ddechrau’r 1990au dros fil o sgerbydau, a rheini wedi bod yn archif Amgueddfa Cymru yn disgwyl archwiliad llawn.Dysgon ni sut mae'n rhaid storio a thrin y sgerbydau yn unol â safonau moesegol ar gyfer delio â gweddillion dynol. Caiff pob sgerbwd ei hasesu'n unigol ar gyfer cyflawnrwydd, ac weithiau mae'n bosib adnabod y rhyw a gweld tystiolaeth o oedran neu afiechydon. Cofnodwyd y wybodaeth i’w gynnwys yng nghatalog yr Amgueddfa, a bydd yn ddefnyddiol iawn yn y dyfodol wrth ymchwilio gweddillion dynol safle Llandochau, a bydd yn cyfrannu at astudiaeth archeoleg ganoloesol yn fwy cyffredinol.Mae archwilio gweddillion dynol yn ysgogi adfyfyrio ar fywydau pobl ganoloesol ac, er efallai nad yw at ddant pawb, mae’n dod â ni’n nes at y gorffennol mewn ffordd arbennig. Roedd y lleoliad gwaith yn brofiad dysgu rhagorol. Roedd y Curadur, Adelle yn amyneddgar iawn gyda’r holl gwestiynau a godwyd ac yn hael wrth rannu ei gwybodaeth a’i sgiliau. Mae’n ffordd wych i Amgueddfa Cymru ymgysylltu â’r cyhoedd, ac rwy’n ddiolchgar am y cyfle i weld y tu ôl i’r llenni a chyfrannu at waith yr amgueddfa. Rwy'n gobeithio y bydd Amgueddfa Cymru yn parhau i gynnig cyfleoedd o'r fath i'r rhai a hoffai cymryd rhan mewn lleoliadau gwaith i fyfyrwyr. Am fwy o wybodaeth am leoliadau gwaith i fyfyrwyr, ewch i dudalennau ‘Cymryd Rhan’ y wefan. Mae modd cofrestru i rhestr bostio i glywed am unrhyw leoliadau pan fyddant yn cael eu hysbysebu.