Mark Etheridge ar Hanes ac Actifaeth LGBTQ+ Mark Etheridge, 27 Chwefror 2025 Mark Etheridge, Prif Guradur Datblygu Casgliadau: LHDTQ+© Amgueddfa Cymru Mae’n Fis Hanes LHDTQ+ a’r thema eleni yw Ymgyrchedd a Newid Cymdeithasol. Wedi’i sefydlu gan Schools Out yn 2025, mae Mis Hanes LHDTQ+ yn ofod penodol, neilltuedig i ddathlu hanes amrywiol a chyfoethog ein cymunedau LHDTQ+.I nodi’r achlysur, buom yn cyfweld â’n prif guradur casgliadau LHDTQ+ yn Amgueddfa Cymru i archwilio’r eitemau yn ein casgliadau sy’n cofnodi’r adegau allweddol hyn yn hanes ymgyrchedd LHDTQ+ Cymru.Helô Mark, a hoffech chi gyflwyno eich hun a dweud mwy wrthym am eich rôl yn Amgueddfa Cymru?Hoffwn. Mark Etheridge ydw i. Fi yw Prif Guradur Datblygu Casgliadau: LHDTQ+ yn Amgueddfa Cymru, yn gweithio o Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.Dechreuais y rôl hon wrth ddatblygu’r casgliad LHDTQ+ yn ôl yn 2019, ar adeg pan oedd nifer fach iawn o wrthrychau y gellid eu nodi fel rhai LHDTQ+. Roedd y gwrthrychau hyn yn ymwneud yn bennaf â ffigyrau hanesyddol, digwyddiadau Pride Cymru, ac Adran 28, ond nid oeddent ar unrhyw gyfrif yn cynrychioli croestoriad y gymuned LHDTQ+ gyfan ledled Cymru, yn y gorffennol ac mewn profiadau cyfoes ill dau.Rwyf wedi gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau cymunedol ac unigolion dros y blynyddoedd diwethaf i adeiladu casgliad sy’n llawer mwy cynrychioliadol ac mae gennym bellach gasgliad o dros 2,200 o eitemau wedi’u nodi fel rhai LHDTQ+. Baner brotest a wnaed gan CYLCH mewn gwrthdystiad yn erbyn Adran 28. © Amgueddfa Cymru Mae’n Fis Hanes LHDTQ+ a’r thema ar gyfer eleni yw Ymgyrchedd a Newid Cymdeithasol. Gyda’ch gwybodaeth am hanes LHDTQ+ yng Nghymru ac o’ch profiad eich hun, pa newidiadau ydych chi wedi’u gweld?Mae thema eleni yn cyd-fynd yn dda â’n casgliadau a’n cas arddangos LHDTQ+ newydd, Cymru... Balchder, yn Sain Ffagan, sef yr arddangosfa barhaol gyntaf o hanes LHDTQ+ yn Amgueddfa Cymru. Mae’r arddangosfa’n dangos sut mae hawliau cyfartal wedi newid dros y 50-60 mlynedd diwethaf a sut y maen nhw’n esblygu ac yn newid heddiw. Rydyn ni wedi gweld – a dyma beth mae’r cas newydd yn ei esbonio – pethau fel dad-droseddoli cyfunrhywiaeth yn rhannol ym 1967, ffurfio grwpiau fel Ffrynt er Rhyddid Pobl Hoyw Caerdydd yn y 1970au cynnar, protestiadau yn erbyn Adran 28 ar ddiwedd y 1980au a’r 90au, hyd at rai o’r protestiadau hawliau traws mwyaf diweddar yn erbyn pethau fel therapi trosi, sydd wedi bod yn digwydd yng Nghaerdydd a ledled Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.Y meysydd rwyf wedi bod yn casglu eitemau ynglŷn â nhw dros y blynyddoedd diwethaf yw’r newidiadau yn 2021 i’r gwaharddiad ar ganiatáu i ddynion hoyw a deurywiol roi gwaed, ynghyd â bil yr Eglwys yng Nghymru a oedd yn caniatáu bendithio priodasau rhwng pobl o’r un rhyw a phartneriaethau sifil o fis Medi 2021.Felly, dwi’n credu bod y protestiadau a gweithredu presennol ynghylch gwelliannau i hawliau cyfartal yn dangos bod y frwydr yn dal i fynd rhagddi heddiw ac na ddaeth i ben ym 1967. Adroddiad yn ymwneud â Bil yr Eglwys yng Nghymru, a basiwyd ym mis Medi 2021.© Amgueddfa Cymru A fyddech chi’n gallu dweud mwy wrthym am yr eitemau sy’n cael eu harddangos yn Sain Ffagan sy’n ymwneud â’r adegau hynny yn hanes ymgyrchwyr LHDTQ+?Un o’r eitemau yn y ces yw bil yr Eglwys yng Nghymru. Mi wnes i gasglu nifer o eitemau ynghylch ei gyfreithlondeb, ynghyd ag araith mewn llawysgrifen gan Esgob Llandaf, a siaradodd o’i blaid. I gyd-fynd â’r eitemau hyn ac i ddod ag elfen bersonol i’r foment hanesyddol hon, fe gesglais drefn gwasanaeth ar gyfer dau ddyn hoyw y bendithiwyd eu priodas yn dilyn y bil.Gyda llawer o’r casglu rwy’n ei wneud, nid yw’n ymwneud â’r ffeithiau ynghylch y newidiadau mewn hawliau cyfartal yn unig, mae’n ymwneud â sut mae’n effeithio ar y gymuned LHDTQ+ a’r straeon personol o’u cwmpas.Mae’n arbennig iawn ein bod ni’n gallu clywed am y profiadau personol y tu ôl i’r digwyddiadau hanesyddol hyn. A allech ddweud ychydig wrthym am sut yr ydych yn mynd ati i gaffael y darnau hyn, yn enwedig pan fyddant yn eitemau personol? Placard 'Raid Gwahard Therapi Trosi'. Defnyddiwyd mewn protest, a drefnwyd gan Trans Aid Cymru, yn erbyn therapi trosi, 26 Ebrill 2022.© Amgueddfa Cymru Weithiau mae’n fater o estyn allan at bobl trwy’r cyfryngau cymdeithasol neu rydych chi’n digwydd cwrdd â rhywun sy’n cynnig rhoi eitem i’n casgliadau.Rhan ohono hefyd yw gweithio gyda rhai sefydliadau. Mae Trans Aid Cymru wedi bod yn gefnogol iawn o’m gwaith ac wedi fy helpu i gasglu placardiau a ddefnyddiwyd mewn amrywiol brotestiadau hawliau traws a gynhaliwyd ganddynt yng Nghymru.Mae’n bwysig ein bod yn meithrin cysylltiadau ag aelodau o’r gymuned LHDTQ+, boed hynny’n unigol neu fel grwpiau cymorth, a’n bod yn darparu man diogel i’r casgliad ac i straeon gael eu hadrodd.Yn ogystal â Trans Aid Cymru, ydych chi wedi gweithio gydag elusennau a grwpiau LHDTQ+ eraill? A pha rai ydych chi’n credu sydd angen mwy o sylw?Rydw i wedi gweithio gyda rhai grwpiau fel Glitter Cymru a Pride Cymru ond hefyd wedi gweithio gyda’r grwpiau Pride llai. Baner a wnaed gan Glitter Cymru, a ddefnyddiwyd yn Pride BAME Cymreig cyntaf a gynhaliwyd ym mis Awst 2019.© Amgueddfa Cymru Mae yna rai ohonyn nhw y bues i’n estyn allan atyn nhw yn ddiweddar ac sydd wedi bod yn gefnogol wrth roi gwrthrychau i’n casgliadau, fel Pride Merthyr Tudful, Pride Caerffili a Pride y Fflint.Rwy’n meddwl bod pob un o’r rhai yr wyf wedi sôn amdanynt yn bwysig i’w cefnogi, gan fod y digwyddiadau Pride llai yn y cymunedau lleol yn hanfodol i ganiatáu i bobl fynychu Pride wrth gynrychioli’r gymuned LHDTQ+ ar yr un pryd a chaniatáu iddi gael ei gweld mewn cymunedau llai.Mae’n ymwneud â gwelededd. Roedd Glitter Cymru yn gefnogol iawn pan ddechreuais yn y rôl hon gyntaf yn 2019, ac maent yn diwallu angen penodol iawn yng Nghymru o ran cefnogi pobl mwyafrif byd-eang sy’n LHDTQ+. Mae yna lawer o wahanol elusennau a llawer o wahanol grwpiau, i gyd yn cefnogi llawer o wahanol feysydd a chyda’u gwerth eu hunain. Arwydd o dafarn King's Cross, 25 Stryd Caroline, Caerdydd, 1990au.© Amgueddfa Cymru Os ystyriwn yr arddangosfa newydd yn Sain Ffagan a’n casgliad ehangach o eitemau LHDTQ+, pa ddarn fyddech chi’n ei ddweud sy’n golygu fwyaf i chi?Mae’n un eithaf personol. Mae gennym arwydd o dafarn o’r enw’r King’s Cross yng Nghaerdydd, a dyna oedd un o’r tafarndai hoyw cyntaf i mi fynd i mewn iddi ar ôl i mi ddod allan. Roedd yn gyrchfan i bobl hoyw o’r 70au cynnar hyd at pan gaeodd yn 2011.Mae gen i’r cysylltiad personol hwnnw yno ac rwy’n meddwl bod ein casgliadau yn bwysig o’r safbwynt hwnnw. Rydych am i bobl uniaethu â nhw am ba bynnag reswm, boed hynny er mwyn eu hannog i ymgyrchu’n fwy, neu i’w galluogi i gysylltu ag eitem ar lefel bersonol lle mae’n dod ag atgofion penodol yn ôl.Rydym am i gasgliadau’r amgueddfa alluogi pobl i wneud y cysylltiadau hynny. Reg a George yn cael picnic gyda'u ci. Cyfarfu'r ddau ym 1949 a buont gyda'i gilydd am dros 60 mlynedd.© Mike Parker/Amgueddfa Cymru Yn hollol, a chan fynd yn ôl at ymgyrchedd a newid cymdeithasol, nid oes angen iddi fod yn brotest o reidrwydd. Ar adegau, dim ond mater o fodolaeth yw hi.Ie, yn union, ac rwy’n meddwl bod hynny’n rhywbeth y soniais amdano’n ddiweddar mewn sgwrs am ein casgliad ar Reg Mickisch a George Walton o On the Red Hill. Rwy’n meddwl eu bod yn enghraifft o hynny, ganeu bod yn byw eu bywyd bob dydd gyda’i gilydd ar adeg pan oedd yn anghyfreithlon.Nid protestio yn unig yw actifiaeth, mae bodoli fel person LHDTQ+, yn enwedig ar adegau pan oedd yn anghyfreithlon neu’n dabŵ, yn fath o actifiaeth ynddo’i hun.Mae hynny’n rhywbeth rwy’n eithaf awyddus i’r arddangosfeydd eu dangos – nad yw’n ymwneud yn unig â gweithredu o ran protestio a balchder, ond bod llawer o straeon am bobl LHDTQ+ yn byw eu bywydau bob dydd yng Nghymru, a dyna’i gyd.Yn ogystal â’r cas arddangos LHDTQ+ newydd yn Sain Ffagan, beth hoffech chi ei gyflawni nesaf?Rydyn ni’n dal i gasglu hanes LHDTQ+, ac rydyn ni’n arbennig eisiau mwy o eitemau yn ymwneud â gweithredu cynnar a straeon cynnar am bobl LHDTQ+ sy’n byw yng Nghymru.Mae gennym ni’r cas newydd yn Sain Ffagan a phethau – dyweder – cysylltiedig â LHDTQ+ yn yr adran gelf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ond mae gennym ni lai ar rai o’n safleoedd eraill.Felly rwy’n meddwl mai’r cam nesaf yw dechrau defnyddio’r casgliad i greu mwy o arddangosfeydd a’i blethu i stori pob safle a phopeth a wnawn. Ein arddangosfa LGBTQ+ newydd Cymru… Balchder yn Sain Ffagan© Amgueddfa Cymru Sut byddech chi’n cymharu hanes gweithredu a newid cymdeithasol LHDTQ+ â grwpiau o ymgyrchwyr heddiw a’r dirwedd wleidyddol?Mae’r frwydr dros hawliau cyfartal yn dal yn mynd rhagddi mewn llawer o ffyrdd. Y pryder i rai pobl yw y gall yr hawliau a roddwyd gael eu tynnu oddi arnynt. Gellir eu tynnu’n ôl yr un mor hawdd ag y gallant symud ymlaen. Gallwn ni ddim cymryd rhai pethau yn ganiataol, ac mae’n rhaid i ni gofio hynny.Wyddoch chi, mae hyn yn amlwg mewn pethau fel dileu cyfunrhywiaeth fel trosedd ym 1967. Roedd ond yn ddad-droseddoli rhannol o dan amgylchiadau penodol iawn.Fel gyda bil yr Eglwys yng Nghymru, fe aethon nhw un cam i ganiatáu i briodasau rhwng pobl o’r un rhyw gael eu bendithio yn yr Eglwys yng Nghymru ond wnaethon nhw ddim mynd y cam ymhellach i ganiatáu iddynt briodi.Pethau bach felly ydyn nhw, lle gallan nhw fod yn un cam ymlaen, ond dydyn nhw ddim o reidrwydd yn mynd yr holl ffordd.Diolch, Mark, am gymryd yr amser i drafod ein casgliadau LHDTQ+ mewn perthynas â gweithredu a newid cymdeithasol. Rwy’n llawn cyffro o weld y casgliad yn tyfu ac iddo ddod yn nodwedd barhaol yn stori ein hamgueddfeydd. © Amgueddfa Cymru Nawr, hoffem orffen trwy ofyn beth yw eich hoff eitem yn ein casgliadau y tu allan i’ch gwaith?Cymerwyd y negatif plât gwydr hwn gan Mary Dillwyn ym 1854 neu 1855. Mary yw un o’r ffotograffwyr benywaidd cyntaf yng Nghymru ac mae’r negatif hwn o gasgliad mawr yn Amgueddfa Cymru a gymerwyd gan aelodau o deulu Dillwyn Llewelyn. Rwyf wrth fy modd bod y ddelwedd hon yn dal yr hyn mae'n debyg yw'r ffotograff cyntaf a dynnwyd o ddyn eira yng Nghymru; gyda'r casgliad hefyd yn cynnwys llawer o rai cyntaf yng Nghymru megis y ffotograff cyntaf o noson tân gwyllt.Gallwch archwilio mwy o’n casgliadau LGBTQ+ ar-lein, ymweld â’n harddangos LGBTQ+ newydd Cymru... Balchder yn Sain Ffagan, neu ddarganfod ein casgliad 'Lesbian and Gays Support the Miners' yn ein harddangosfa Streic! 84-85 Streic! yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, agor tan 27 Ebrill 2025.