Atgofion trwy grefft, gan Rachel Evans 1 Ebrill 2026 Fel artist, mae fy ngwaith yn archwilio olion hanes cymdeithasol a gedwir o fewn arteffactau domestig a thirweddau lleol. Rwy'n cael fy nenu at fanylion sy'n myfyrio ar feithrin a dyfeisgarwch, yn enwedig rhai a luniwyd gan brofiadau dyddiol menywod, sydd yn aml ar goll o hanesion swyddogol. Roedd y project hwn yn gyfle gwych i ymgysylltu â chyfranogwyr, clywed straeon, ac archwilio sut mae gwrthrychau bob dydd yn dal atgofion a hanesion. Dechreuodd ein sesiynau yn yr ‘ystafell ddydd’ ar ward Morfa, Ysbyty Alltwen, gyda sgyrsiau am fywyd domestig y gorffennol, wedi’u sbarduno gan arteffactau o'r amgueddfa, fel crochenwaith, cyllyll a ffyrc, a thecstiliau. Fe wnaethon ni greu darnau personol wedi'u hysbrydoli gan fywyd domestig gan ddefnyddio clai aer-sychu, gyda gweadau sy'n adlewyrchu llafur diwydiannol a llafur cartref. Drwy ddefnyddio stampiau llythrennau, roedd modd argraffu atgofion o'n trafodaethau i'r clai, gan ychwanegu haen bersonol at straeon torfol. Ychwanegwyd lliw gydag inc a graffit, neu de a choffi, wedi'i bwffio i roi naws oedrannus i’r darnau - proses a oedd yn adleisio tasgau domestig. Ysbrydolodd y matiau rhacs sydd yn rhan o gasgliad yr Amgueddfa Lechi, ac yn symbol o ddyfeisgarwch domestig, ni i greu ein sampl gydweithredol ein hunain. Yn draddodiadol, gwnaethpwyd y matiau hyn trwy wthio stribedi rhacs trwy ddeunydd sach; fe wnaethon ni addasu'r dull er mwyn symlrwydd drwy lapio defnydd o amgylch glanhawyr pibellau, yna eu cysylltu â'u gwnïo i siâp mat rhacs bychan. Mae'r darnau cylch brodwaith wedi'u hysbrydoli gan flanced chwarelwr o tua 1900, wedi'i gwneud o ddarnau clytiog o frethyn llwyd wedi'u trimio â choch, i amddiffyn ei berchennog rhag amodau llym y barics. Mae ein darnau wedi'u gwnïo yn cyfuno dyfeisgarwch gwnïo a thrwsio â symbolau o'r llefydd tân cerfiedig a welir mewn rhai cymunedau chwarelyddol.Mae'r darnau maint cerdyn post yn parhau â'r thema, yn cynnwys symbolau o'r llefydd tân, gyda thestun wedi'i dynnu o sgyrsiau ac atgofion.Mae'r project hwn wedi bod yn ffordd wych o rannu straeon personol a chreadigrwydd, gan ddod â phobl ynghyd trwy greu gyda’n gilydd - diolch i bawb a gymerodd ran!"Braf oedd dod at ein gilydd a dysgu sgiliau newydd" - claf o ward Morfa, Ysbyty AlltwenManylion cyswllt: rachelevanscelf@gmail.comInstagram: rachelevans_artist Cynhaliwyd y gweithgareddau yma fel rhan o broject ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, a ariennir gyda nawdd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU trwy Gyngor Gwynedd fel rhan o broject Llewyrch o’r Llechi, Llywodraeth Cymru yn cynnwys y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Garfield Weston a chyllidwyr eraill. Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.