Hafan y Blog

Gwanwyn yn Gwawrio

Catalena Angele, 28 Chwefror 2014

Mae’r haul yn disgleirio drwy ffenest fy swyddfa yng Nghaerdydd ac mae’n teimlo fel gwanwyn o’r diwedd! Dyw fy mhlanhigion i ddim yn barod i flodeuo eto – mae’r cennin Pedr talaf yn 80mm o uchder a’r crocws talaf yn ddim ond 30mm o uchder – ond dwi’n siŵr y byddan nhw’n mwynhau’r heulwen! Fe dynnais i lun o’r cennin Pedr a’r crocysau yn eu blodau ym Mharc Bute yng Nghaerdydd y bore ’ma. On’d ydyn nhw’n brydferth?

Pa ysgolion sydd wedi cofnodi eu blodau cyntaf?

Cofnododd Ysgol Glan Cleddau bod eu crocws cyntaf wedi blodeuo, ac mae Ysgol Gynradd yr Archesgob Hutton yn Lloegr wedi cofnodi bod eu cennin Pedr cyntaf wedi blodeuo.Llongyfarchiadau, a da iawn chi am anfon eich cofnodion!

Dyma Ysgol Gynradd Rougemont yn anfon y neges hon: Mae cyffro mawr yma yn Ysgol Rougemont Athro’r ardd ... mae ein BYLBIAU DIRGEL wedi dechrau blodeuo! Mae nhw’n edrych yn iach iawn gyda choesau byrrach na’r cennin Pedr a blannon ni. Rydyn ni’n meddwl taw Narcissus ydyn nhw, Tete a Tete efallai? Byddwn ni’n anfon ffotograff cyn hir. Athro’r Ardd: Mae hynna’n gyffrous iawn Ysgol Rougemont, a da iawn chi am ymchwilio i weld pa fath o Narcissus ydyn nhw – gwyddoniaeth gwych! Rwy’n edrych ymlaen i weld y ffotograffau.

Dywedodd Ysgol Arbennig Kilmaron: ARSYLWI BYLBIAU’R LLYNEDD. Rydyn ni wedi bod yn monitro bylbiau crocws a chennin Pedr y llynedd i weld os yw’r hen fylbiau yn blodeuo cyn y rhai newydd. Ar ôl gwyliau hanner tymor dyma ni’n canfod bod bylbiau crocws y llynedd wedi blodeuo tra bod bylbiau eleni wedi blodeuo tua 7-10 diwrnod yn ddiweddarach. Rydyn ni’n gobeithio anfon cofnodion eleni tua diwedd yr wythnos nesaf. Athro’r Ardd:Arsylwi ac ymchwilio arbennig Ysgol Kilmaron! Rydych chi’n iawn bod bylbiau hŷn fel arfer yn blodeuo yn gynt na bylbiau newydd ifanc, ond y rheswm dros hyn yw eu bod nhw wedi cael blwyddyn ychwanegol i dyfu a storio bwyd.

 

Ys gwn i ble fydd y blodau nesaf yn agor? Gallwch chi weld ble mae’r blodau wedi agor hyd yn hyn drwy edrych ar y map yma.Os nad yw eich blodau chi wedi agor eto, gwyliwch nhw’n ofalus. Gallan nhw agor unrhyw ddiwrnod!

Cofiwch anfon eich cofnodion blodau ata i cyn gynted fydd y blodau’n agor. Os nad ydych chi’n cofio sut i wneud hyn, defnyddiwch y cyflwyniad PowerPoint Cadw cofnodion blodau, a darllen y dudalen Beth i'w gofnodi a phryd ar y wefan.

CYNGOR CRAFF:

  1. Gall pob disgybl yn y dosbarth anfon eu cofnodion blodau. Mae’r holl ddata fyddwn ni’n ei dderbyn yn cael ei ddefnyddio i ganfod dyddiad blodeuo cyfartalog pob ysgol. Gwyliwch y siart crocysau a’r siart cennin Pedr i weld y tablau yn newid wrth i fwy o ddata gyrraedd. Mae’n bwysig ofnadwy bod pob disgybl yn anfon eu cofnodion, fel bod y wefan yn gallu cyfrifo dyddiad blodeuo cyfartalog yr ysgol.
  2. Bydd y cennin Pedr yn troi ei ben i lawr ychydig cyn blodeuo. Fydd y blodyn ddim wedyn yn llenwi â d?r ar ôl agor.
  3. Rhaid i chi gyd anfon eich cofnodion blodau er mwyn ennill y Gystadleuaeth Gwyddonwyr Gwych!

Eich cwestiynau, fy atebion:

Your questions, my answers:

Ysgol Terrig: It snowed heavily on Monday morning and stopped about lunch time. Our bulbs are starting to grow :) Prof P: I’m glad your bulbs are growing, did you go out to play in the snow?

Raglan VC Primary: We missed Tuesday because it was raining cat's and dog's, and we had bike training. Prof P: I love that saying! Can you imagine what it would be like if it really did rain cats and dogs? How would we measure that in our rain gauge?

Chatelherault Primary School: Sorry we did not record information on Thursday because we were away all day at a school trip. We were excited to see little green shoots in some of the plants. Prof P: Thanks for letting me know Chatelherault, I hope you had fun on your school trip.

Greyfriars RC Primary School: The plants are growing well and it's wonderful seeing them grow up. The mystery bulbs are really a mystery. from A and A :) Prof P: I hope your mystery will soon be solved Greyfriars!

Arkholme CE Primary School: Unfortunately the plant pots are standing in water this week. Let's hope next week is drier. The mystery bulbs are growing better than the others. Flower buds just appearing. From H. Prof P: I am sure your plants will survive the rain Arkholme, keep watching those flower buds!

Diolch yn fawr

Athro'r Ardd

Catalena Angele

Swyddog Addysg - Casgliad y Werin Cymru
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.