Digwyddiadau

Cwrs: Darlunio Botanegol

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
22 Ebrill 2023, 10.30am-4pm
Pris £75 | £60 gostyngiad
Addasrwydd 16+*
Night Blowing Cactus

Cactws Nosflodeuol Cereus grandiflorus, o Plantae Selectae gan G.D. Ehret, 1772.
Mae cyfansoddiad yr astudiaeth hon yn adlewyrchu talentau Ehret fel cynllunydd a dyluniwr medrus. Mae'r canlyniad yn wyddonol werthfawr, gyda'i dyraniadau manwl, yn ogystal â bod yn hardd i'w weld.

Carica papaya

Papaya Carica papaya, o Plantae Selectae 1772 gan Georg Dionysius Ehret (1708-1770).
Darganfuwyd nifer o'r ffrwythau egsotig megis y Paw-paw a'r Binafal ar deithiau darganfod yn ystod y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a daethant yn ffasiynol yn gyflym yn Ewrop. Mae'r Paw-paw yn hanu o America drofannol.

Cwrs diwrnod yn rhoi'r cyfle i chi droi eich llaw at Ddarlunio Botanegol. Dan arweiniad yr artist Debbie Devauden, byddwch yn dysgu'r technegau sydd eu hangen i greu paentiad dyfrlliw. 

Cewch eich ysbrydoli gan ddetholiad arbennig o gasgliad yr Amgueddfa o dros 7,000 o brintiau a darluniau botanegol, nifer ohonynt yn dyddio'n ôl i'r 18fed ganrif. Mae pob math o straeon diddorol tu ôl i'r delweddau hyn. Bydd Dr Heather Pardoe, un o guraduron yr Amgueddfa, wrth law i ddweud mwy.

Mae hwn yn gwrs addas i ddechreuwyr a darlunwyr ychydig yn fwy profiadol, ac mae'r pris yn cynnwys yr holl ddeunyddiau angenrheidiol.

Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis. 

 

Rhaid prynu tocyn ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad hwn.

Iaith: Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwyluswyr - sef Saesneg

Gostyngiad: Myfyrwyr gyda cherdyn NUS, pobl sy’n derbyn budd-daliadau. Pobl dros 60 oed a rhwng 16-18 oed.

Hygyrchedd: Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod unrhyw anghenion hygyrchedd.

Telerau ac amodau: Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.

Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.

 

TOCYNNAU

Digwyddiadau