Digwyddiad: Y Cynfas Byw
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen



Galwch draw i weld gwisgoedd hanesyddol o bortreadau yn ein casgliadau wedi'u hailgreu gan fyfyrwyr Cwrs Creu Gwisgoedd Coleg y Cymoedd. Bydd y paentiadau sy'n addurno'r orielau yn dod yn fyw diolch i fisoedd o ymchwil hanesyddol a gwaith caled y myfyrwyr.
10.30am – 11.30am & 12.30pm – 1.30pm y myfyrwyr yn trafod eu gwisgoedd o flaen y portreadau wnaethon nhw eu dewis yn yr orielau
2pm sioe ffasiwn a beirniadu yn y Brif Neuadd Bydd seddi ar gael, ond y cyntaf i'r felin gaiff falu.
Cwrs tair blynedd gan Brifysgol De Cymru yw'r cwrs BA(Anh) mewn Creu Gwisgoedd yng Ngholeg y Cymoedd. Mae'r myfyrwyr yn astudio gwisgoedd hanesyddol a modern, gan ddatblygu sgiliau arbenigol fel torri patrymau, creu dillad ac addurno arwynebau.