Digwyddiadau

Arddangosfa: Casgliadau Newydd: Go Home Polish

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
O 27 Ionawr 2024
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedolion

Go Home, Polish © Michal Iwanowksi

Michal Iwanowski

Yn 2008 gwelodd Michal Iwanowski, artist a aned yng Ngwlad Pwyl sy’n byw yng Nghaerdydd, graffiti ger ei gartref yn dweud 'Go Home Polish'. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, dan gwmwl Brexit ac Ewrop ranedig, cerddodd y 1900km anodd o Gymru i'w bentref genedigol, Mokrzeszów yng Ngwlad Pwyl. Fe gerddodd drwy Gymru, Lloegr, Ffrainc, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, yr Almaen a Czechia, mewn llinell mor syth â phosib, nes cyrraedd adref.

Bwriad Michal oedd ymchwilio i’r ymdeimlad o 'gartref', a’i ddeall yn well. Cymerodd y daith 105 o ddiwrnodau, a thrwy hynny fe bostiodd ddyddiadur o'i brofiadau a'i gyfarfyddiadau ar Instagram. Mae pob post wedi'i gyflwyno yma mewn cyfres o flychau golau, a detholiad hefyd wedi'u chwyddo yn ffotograffau mawr. Cydweithiodd Michal gyda'r cerddorion Gwenno a W H Dyfodol ar ddwy gân i gyd-fynd â'r project, a glywyd ar ffilm fer o'r un enw wnaeth ennill Gwobr Iris yn 2020.

Dyma Amgueddfa Cymru yn caffael Go Home Polish yn 2020 yn ystod pandemig Covid, pan ddaeth 'adref' yn ganolog i fywyd pawb. Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae'r project yn dal yn berthnasol yn ein byd bythol newidiol ni.

 

Rhybudd: Mae'r arddangosfa yn cynnwys darluniau o farwolaeth anifeiliaid, homoffobia, iaith anweddus a rhyw.

 

Dysgwch fwy am ein arddangosfaCasgliadau Newydd

 

Fel elusen, mae eich cefnogaeth yn hanfodol, ac yn helpu'r Amgueddfa ym mhopeth rydyn ni'n ei wneud.

Mae eich cefnogaeth yn helpu i gysylltu cymunedau ledled Cymru â'u hanes, a gofalu am dros 5 miliwn o wrthrychau yn ein casgliadau ar ran pobl Cymru. Rydych chi’n ein helpu ni i warchod ein gorffennol ac ysbrydoli cenedlaethau drwy gelf, treftadaeth a gwyddoniaeth.

⁠Helpwch ni i greu dyfodol bywiog sy'n siapio stori Cymru!

 

Cyfrannwch heddiw

Digwyddiadau