Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Plate
Ar y plât hwn mae grwp mawr o flodau melyn Mair, blodau'r gwynt a cwlwm coed ar gefndir yn dangos llyn a thŷ haf siâp octagon yn y pellter. Dyma'r tro cyntaf i gyfansoddiad o'r fath gael ei ddefnyddio ar borslen, ac mae'n bosibl i'r ysbrydoliaeth ddod o ddarluniau tebyg o flodau yn y llyfr Temple of Flora gan Robert Thornton 1799-1807. Mae'r plât yn rhan o set bwdin wych a baentiwyd gan Baxter ar gyfer perchennog ffatri Abertawe, Lewis Weston Dillwyn (1778-1855).