Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Theatre programme
Rhaglen ar gyfer y ddrama 'The Lady's Not for Burning' gan Christopher Fry a gafodd ei pherfformio yn theatr y Globe, Llundain ym 1949. Dyma rôl gyntaf Richard Burton ar lwyfan y West End. Cafodd ei gastio gan yr actor a’r cyfarwyddwr, John Gielgud fel clerc amddifad yn y ddrama. Prynodd Richard 40 tocyn i’w deulu a chôr meibion Afan Glee gael dod i’w weld! Bu'r cynhyrchiad yn llwyddiannus ar Broadway ym 1950 hefyd gyda'r un cast.