Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Pwysgotwr wrth angor ger Glan
Mae'r cyfansoddiad marwnadol hwn o tua 1865-70 yn un o nifer o olygfeydd o bysgotwyr mewn cychod; yn aml maent wedi angori ger coeden helyg. Mae capan y dyn fel smotyn bach coch yn pwysleisio cynildeb lliwiau Corot. Disgrifiodd dristwch tyner gweithiau felly: 'Gadewch i ni eistedd wrth y llyn hwn, sy'n llonydd fel drych. Mae natur yn edrych yn flinedig. Y blodau, druain! Fe wyddant y bydd ysbrydion y nos yn eu hadnewyddu â gwlith'. Prynodd Margaret Davies y gwaith hwn ym 1908.