Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Bachgen Sâl
Ganed Rosso yn Torino a'i hyfforddi ym Milan. Bu ym Mharis yn gyntaf ym 1884 a bu'n byw yno ym 1889-97 gan ddod yn drwm o dan ddylanwad Dalou a Rodin. Mae pwnc ac awyrgylch ei gerfluniau hefyd yn ein hatgoffa o beintiadau Carriére. I gael yr effeithiau teimladwy a darluniadol, byddai'n arbrofi gyda chyfrwg bregus cwyr ar blastr. Y pen hwn oedd un o'i gyfansoddiadau mwyaf llwyddiannus a chafodd ei gastio mewn cyfres o 17 o darnau cwyr ac efydd o leiaf.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.