Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Horizontal single cylinder steam engine
Steam engine from Barry Refuse Destructor Yard. Horizontal single cylinder steam engine of 254mm bore by 508mm stroke, made for 100 lb pressure and 110 rpm by Tangyes of Birmingham. Used at the Barry Destructor Yard to generate electricity from circa 1900. It has a trunk type of crosshead guide, a marine style big end bearing, an 'outboard' main bearing, a disc crank, a flywheel of 1830mm dia., a Pickering style governor which is driven by a flat belt, steel cylinder cladding. It has a mechanical lubricator by J&W Kirkham Ltd., Lark Street Works, Bolton - this looks to be a later addition. Paintwork is not original. Colour - Green, Black, Red.
Tua diwedd y 19eg ganrif ddiwethaf daeth yn amlwg bod yr arfer o adael i sbwriel o’r tai bydru’n naturiol mewn tomenni ar gyrion trefi yn creu peryglon difrifol i iechyd. Erbyn troad y ganrif roedd tua thrigain o drefi wedi sefydlu unedau i ddifetha sbwriel. Aed â’r sbwriel a’i losgi mewn peiriau mawr. Roedd peth o’r stêm o’r pair yn gyrru injan ac, fel yn achos Y Barri, roedd yn cynhyrchu trydan i oleuo’r gwaith ei hunan ac ysgol gyfagos. Roedd gweddill y stêm yn gyrru melin fortar. Câi’r lludw o’r sbwriel ei falu gyda chalch a dŵr i wneud mortar ar gyfer gosod cerrig cwrbyn a phalmentydd ar hyd strydoedd Y Barri. Mae’r injan hon, yn gyrru dynamo sydd, yn ei dro, yn cynhyrchu trydan at ddibenion goleuo. Lampiau bwa oedd y dull cyntaf o oleuo, ond pan oedd y dynamo yn cylchdroi’n rhy araf byddai’r golau’n gwanhau yn sydyn. Felly, defnyddid beltiau a phwlïau i droi’r dynamo’n llawer cyflymach na’r injan a thrwy hynny llwyddid i osgoi’r broblem. Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984