Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
M.V. ST. THOMAS and ST. ESSYLT (painting)
Commissioned by R.G.M. Street, managing director of the South American Saint Line.
Comisiynwyd gan R. G. M. Street, rheolwr gyfarwyddwr y South American Saint Line. Ym 1948, cafodd dwy long o gynllun chwyldroadol, eu cwblhau gan gwmni Thompson o Sunderland ar gyfer y South American Saint Line, Caerdydd. Cyn y rhyfel, dechreuodd y cwmni gynnig gwasanaeth llong deithwyr rheolaidd i Dde America, gyda'r bwriad o ddefnyddio dwy long newydd - St Essylt a St Thomas - i ail-lansio'r gwasanaeth o fri a gludai ddeuddeg teithiwr yn ogystal â nwyddau. Er gwaetha'r llwyddiant cychwynnol, fodd bynnag, daeth y cwmni i ben ym 1965, a chafodd y ddwy long fawreddog hon eu datgymalu ym 1978-79.