Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Penrhyn Quarry, photograph
Golygfa o bonciau Chwarel Penrhyn yn dangos incleiniau a’r ‘Jerry M’s’ yn y pellter (‘Jerry M’ oedd yr enw a roddwyd i rhaffau awyr a ddefnyddiwyd i godi llechi o lefelau is yn y chwarel. Defnyddiwyd yr enw ‘Blondin’ mewn chwareli eraill). Mae’r olygfa yma bellach wedi newid yn llwyr yn sgil datblygiad y chwarel.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.