Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Gwisgwyd gan William Edward Beck, a laddwyd yn ffrwydrad Glofa Universal, Senghennydd, 14 Hydref 1913.
Roedd y dasg o adnabod cannoedd o gyrff, yn aml wedi'u llosgi'n wael, neu eu hanffurfio fel arall, yn anodd iawn. Yn aml, byddai'n rhaid adnabod dynion a bechgyn trwy eu dillad neu eu heiddo personol. Daeth William Edward Beck i dde Cymru o Broadway yng Ngwlad yr Haf i chwilio am waith rhywbryd cyn 1900. Dim ond trwy'r oriawr hon y bu modd adnabod corff Mr Beck. Cafodd y tolc yn y cefn ei achosi naill ai gan y danchwa neu gan dir yn cwympo am fod cynhalbost y to wedi llosgi. Roedd yn 43 mlwydd oed pan fu farw ac yn byw yn 45 Springfield Terrace, Nelson. Cafwyd hyd iddo, yn ôl pob golwg, yn agos at ei gefnder ac mae'r ddau wedi'u claddu ym mynwent Ystrad Mynach.