Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Base Camp
Cyfres o 31 ffilm fer a wnaed gan Finnegan yn nheulu'r cartref yng Nghwm Gwendraeth yng Ngorllewin Cymru yw 'Base Camp'. Mae'r ffilmiau yma'n troi'r ardd yn 'diriogaeth' anarchaidd ac amharchus. Cawn ein hannog i ystyried y syniad o gartref, cenedl a'n lle yn y byd ehangach. Ennillodd Finnegan Fedal Aur Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2005 gyda'r gwaith, ac fe gynrychiolodd Cymru yng Ngwyl Gelf Eilflwydd Fenis yn yr un flwyddyn.