Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Dyffryn Conwy
Golygfa llygad-aderyn rhyfeddol o Ddyffryn Conwy yw'r llun hwn gan David Woodford. O'n blaenau mae'r mynyddoedd yn ymestyn am filltiroedd, cyn pylu i'r niwl glas egwan yn y pellter. Mae'n ddiwrnod cymylog, gyda phelydrau'r haul yn torri drwy'r cymylau llwyd. Efallai ei bod hi newydd fwrw, neu ar fin bwrw. Mae'r heulwen yn adlewyrchu oddi ar wyneb afon ar ei thaith drwy'r mynyddoedd.
Mae paentiadau David Woodford yn cyfleu prydferthwch gwyllt Eryri, yn ei holl dymhorau a thymherau.