Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Tyfai Ceubren yr Ellyll yn Nhynyllyn ar ystâd teulu Vaughan. Yn ôl yr hanes, ymosododd Hywel Sele, 8fed arglwydd Nannau ar ei gefnder Owain Glyndwr yn ystod helfa, ond lladdodd Owain ef. Dyma Owain cuddio’r corff yn y ceubren a chanfu neb mohono am ddeugain mlynedd. Wedi i’r goeden gael ei chodi o’r gwraidd gan storm ym 1813, defnyddiodd Syr Robert Williams Vaughan y pren i gomisiynu nifer o arteffactau, yn eu plith y cwpan hwn.