Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
TORRINGTON (photograph)
Starboard view of the S.S. TORRINGTON. Mounted on card with photographers details printed on.
Eiddo W. J. Tatem & Co. o Gaerdydd oedd y llong fasnach Brydeinig yr S.S. TORRINGTON, a adeiladwyd yn Sunderland ym 1905. Cafodd ei tharo gan dorpido llong danfor U55 ar 8 Ebrill 1917. Rhuthrodd y criw i'w cychod, ond daeth llong yr Almaenwyr i'r wyneb gan gymryd y capten yn garcharor a gorchymyn pawb arall i sefyll yn un rhes ar ddec y llong danfor. Boddwyd 34 o'r criw wrth i'r llong blymio o dan y don.