Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Daeth Thomas yn ddarlunydd ar gyfer y 'Western Mail', ym 1880, a denodd gefnogaeth 3ydd Ardalydd Bute. Wedi cyfnod yn stiwdio Syr Lawrence Alma Tadema yn Llundain, astudiodd Thomas yn Antwerp a Pharis. Yn anarferol, dychwelodd i Gymru a cheisio creu gyrfa fel peintiwr proffesiynol yng Nghaerdydd, ond heb fawr o lwyddiant. Arddangoswyd sawl darn o'i waith, gan gynnwys dau beintiad o Gamlas Morgannwg, yn 'An Exhibition of Works by Certain Modern Artists of Welsh Birth or Extraction', a drefnwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1913-14.